MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 9 | £45,091 - £50,269
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Medi, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynghorydd Athrawon Ymarfer Cynhwysol Blynyddoedd Cynnar ac Ysgol Gynradd
Torfaen Local Authority
Cyflog: Grade 9 | £45,091 - £50,269
Rhaid i chi ddangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol TorfaenMae cyfle cyffrous wedi codi yn y Tîm Cynhwysiant a Lles ADY i Gynghorydd Athrawon Ymarfer Cynhwysol ddechrau cyn gynted â phosibl.
Elfennau allweddol y rôl fydd:
- Darparu cefnogaeth broffesiynol i ysgolion a lleoliadau ledled Torfaen i sicrhau bod addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu'n effeithiol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Bod yn gyfrifol am gefnogi elfennau o ddyletswyddau allweddol yr ALl o dan y Cod ADY ar gyfer Ôl-16
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig sydd â Statws Athro Cymwysedig, sydd â gwybodaeth drylwyr o'r Cwricwlwm i Gymru, dealltwriaeth gadarn o addysgu a dysgu o safon o fewn amgylchedd ysgol uwchradd ac sydd ag o leiaf 5 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn addysgu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos gwybodaeth ymarferol a dealltwriaeth o arfer cynhwysol mewn amgylchedd ysgol prif ffrwd.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd yma, cysylltwch â: Claire.Williams@torfaen.gov.uk
Rhestr Fer: Dydd Gwener 19eg Medi 2025
Cyfweliadau: Dydd Gwener 26ain Medi neu ddydd Llun 29ain Medi 2025
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.