MANYLION
  • Lleoliad: Conwy,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cogydd â Gofal

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad gwaith: Ysgol Penmachno

Bydd yr oriau gwaith oddeutu 20.00 awr yr wythnos, bydd y swydd ar raddfa G03 PR 6 - 7 £10,999 i £11,553 y flwyddyn. £12,38- £12,59 yr awr.

Mae angen unigolyn brwdfrydig i ddarparu gwasanaeth arlwyo ar gyfer y disgyblion, staff ac ymwelwyr. Bydd yn darparu prydau ysgol yn unol â bwydlenni y cytunwyd arnynt yn ganolog a chyflawni'r dyletswyddau goruchwylio cysylltiedig.

Prif ddyletswyddau'r swydd fydd:
1. Trefnu, paratoi a gweini bwyd amser cinio i myfyrwr, staff ac ymwelwyr Ysgol Penmachno.
2. Darparu hyfforddiant ymarferol i weithwyr newydd a chyd weithwyr tra gweithio yn y gegin.
3.Coginio'r prydau sydd angen, monitro'r prydau bwyd, rhannu'r bwyd, archebu, golchi llestri a glanhau'r gegin a'r ystafell fwyta
4. Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant addas ac i ddatblygu (weithiau y tu allan i ddiwrnodau/oriau gweithio arferol trwy drefnu ymlaen llaw) h.y. Hylendid Bwyd Canolradd a Maeth Sylfaenol.
5. Dyletswyddau clercio cysylltiedig.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Wendy Pritchard (01492 575581
/ wendy.jones1@conwy.gov.uk)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gynnal sgwrs syml yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.

This form is also available in English.