MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF24 5ET
  • Testun: Tiwtor
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Ionawr, 2024 11:55 y.p

This job application date has now expired.

Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg)

ACT
Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg)

Hyd y contract: Parhaol, llawn amser

Oriau: 37 awr

Lleoliad: Seiliedig yn y Maes

Cyflog: £26,500 (£25,500 – heb gymhwyster) yn codi i £29,500 y flwyddyn pro rata

Os hoffech weithio i sefydliad sy'n dangos ymrwymiad rhagorol at ymgysylltiad staff, sydd wedi ennill lle ar rhestr cwmnïau Times Best 100 Companies i weithio iddynt yn y DU am yr wyth mlynedd ddiwethaf yn olynol ac sy'n dal achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl byddem wrth ein bodd clywed gennych!

Beth fyddwch chi'n gwneud:

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol i gefnogi dysgwyr i gyflawni Fframweithiau perthnasol yn y gweithle drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r rôl yn cynnwys asesu dysgwyr a chyflwyno gweithdai Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 a Lefel 3 a Sgiliau Hanfodol. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau cyflawniad amserol cymwysterau Prentisiaeth carfan o ddysgwyr.

Rydym yn chwilio am Asesydd sy’n rhugl yn y Gymraeg gydag o leiaf 2 flynedd o brofiad galwedigaethol ynghyd a chymhwyster galwedigaethol o leiaf Lefel 3 (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae'r rôl yn cwmpasu ardal De a Chanolbarth Cymru ac mae’n gorwedd ar Lwybr Prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n adrodd i'r Rheolwr Llwybr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.




JOB REQUIREMENTS
* O leiaf 2 flynedd o brofiad galwedigaethol o weithio
mewn rôl uwch mewn lleoliad Iechyd a Gofal
Cymdeithasol.
* Cymhwyster galwedigaethol o leiaf L3 neu gyfwerth
(Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
* Siaradwr Cymraeg rhugl