MANYLION
  • Lleoliad: Ty Penallta,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Rheolwr Trwyddedu Cynorthwyol

Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Rheolwr Trwyddedu Cynorthwyol
Disgrifiad swydd
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili swydd wag ar gyfer Rheolwr Trwyddedu Cynorthwyol llawn cymhelliant, ymroddedig a phrofiadol. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 3 perthnasol, Cymhwyster i Ymarferwyr Proffesiynol y Sefydliad Trwyddedu, a gwybodaeth fanwl am swyddogaethau Trwyddedu a Chofrestru awdurdodau lleol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfrifoldeb goruchwylio am dîm o swyddogion Trwyddedu a bydd yn dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Trwyddedu yn ôl yr angen ar draws yr holl swyddogaethau. Bydd yn darparu cyngor arbenigol i aelodau'r tîm, uwch swyddogion, Aelodau, y cyhoedd a phartneriaid a rhanddeiliaid eraill. Mae gwybodaeth am systemau ariannol, rheolaethau a sgiliau cyfathrebu rhagorol yn hanfodol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys yr Awdurdod Cyfrifol ar gyfer gwasanaeth trwyddedu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dan Ddeddf Drwyddedu 2003.

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person yn y dogfennau atodedig

Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Lee Morgan /Jacqui Morgan ar 01443 811310.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Mae'r cyfyngiadau gwleidyddol a ddiffinnir gan 'Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 fel y'u diwygiwyd' yn berthnasol i chi mewn perthynas â'r swydd hon.