MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,506 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £23,506 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION DILYNOL
YSGOL GODRE'R BERWYN, Y BALA
(Cyfun 3 - 18: 586 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib
SWYDDOG GWEINYDDOL
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol
Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol a gweinyddol o safon uchel, sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur ynghyd ag agwedd hyblyg a sgiliau gofal cwsmer o'r radd flaenaf.
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £22,054 - £23,506 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Bethan Emyr Jones e-bost:BethanEmyr@godrerberwyn.gwynedd.sch.uk
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259). Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN, 3 O DACHWEDD, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Manylion Person
MANYLION PERSON
Teitl y Swydd Swyddog Gweinyddol YSGOL GODRE'R BERWYN
Adran Addysg
Lleoliad Ysgol Godre'r Berwyn
Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau gweinyddol yn effeithiola chynnig gwasanaeth gweinyddol i Dim Rheoli'r Ysgol ac i raddau llai'r staff dysgu. Mae'r dyletswyddau yn amrywiol a hefyd yn amrywio o ddiwrnod i ddiwrnod
GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD
CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU
• Cyfwerth a NVQ2 mewn gweinyddu.
• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.
• Sgiliau ieithyddol a chyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu da.
GWYBODAETH A SGILIAU
• Sgiliau gofal cwsmer ardderchog.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur, a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.
• Gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ynghyd â gwybodaeth am becynnau Microsoft Office e.e. Word, Excel, Powerpoint
• Sgiliau trefnu a blaenoriaethu.
• Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifennedig cadarn yn y Gymraeg a'r Saesneg.
PROFIAD
• Profiad o weithio mewn rôl weinyddol o fewn ysgol.
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
• Un sy'n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau, swyddogion allanol, ysgolion a rhieni.
• Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
•n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.
• Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
• Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl.
• Agwedd hyblyg gyda'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun.
ANGHENION Y BUASAI'N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD
• Cyfwerth a NVQ3 mewn gweinyddu.
• Cymhwyster TG
• Diogelu data.
• Sgiliau cofnodi cryf.
Swydd Ddisgrifiad
SWYDDOG GWEINYDDOL
YSGOL GODRE'R BERWYN
SWYDD DDISGRIFIAD SWYDDOG GWEINYDDOL
Graddfa Gyflog:
Pwyntiau Cyflog:
Cyflog:
Oriau Gwaith: 32.5
Pwrpas y Swydd
Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau gweinyddol yn effeithiol a chynnig gwasanaeth gweinyddol i Dim Rheoli'r dyletswyddau yn amrywiol a hefyd yn amrywio o ddiwrnod i ddiwrnod.
1 Tasgau Desg Flaen yr Ysgol
1.1 Bod yn gyfrifol am dderbynfa'r ysgol gan groesawu ymwelwyr i'r ysgol.
1.2 Cynnal trefn yn y swyddfa gan ei chadw yn daclus ar bob achlysur.
1.3 Derbyn galwadau ffôn, negeseuon ffacs ac e-bost a negeseuon eraill gan ymateb yn briodol iddynt.
1.4 Agor a dosrannu'r post boreol a threfniadau postio dyddiol.
2 Cyllidol
2.1 Mewn cydweithrediad a'r Rheolwr Busnes a Chyllid bod yn gyfrifol am y drefn "Cyfrif Imprest"
2.2 Cynorthwyo'r rheolwr Busnes a Chyllid gyda chodi archebion a thalu anfonebau yn ôl y gofyn.
2.3 Archebu deunyddiau a defnyddiau i sicrhau rhediad esmwyth y swyddfa.
2.4 Gweinyddu'r drefn cynllun gwersi offerynnol ar gais y Rheolwr Busnes.
2.5 Gweinyddu'r drefn talu ar lein am ginio a holl weithgareddau'r ysgol.
3 SIMS
3.1 Ymdrin â nifer o agweddau o system gyfrifiadurol SIMS ond yn benodol:
- Sicrhau fod manylion disgyblion yn gywir drwy fewnbynnu a chynnal yr wybodaeth yn gyfredol a chywir.
- Mewnbynnu a chynnal yr wybodaeth yn gyfredol a chywir yn modiwl amserlen. .
- Argraffu ystod o adroddiadau yn ôl yr angen.
5 Cyswllt â'r Rhieni
5.1 Mewn cydweithrediad a'r Rheolwr Busnes a Chyllid paratoi datganiadau i'r wasg.
5.2 Mewn cydweithrediad a'r Rheolwr Busnes a Chyllid sicrhau fod gwefan yr ysgol a phob dull arall o gyfathrebu a rhieni a chymuned yr ysgol yn cael ei ddiweddaru'n amserol ac yn gywir.
6.1 Mewn cydweithrediad a'r Rheolwr Busnes a Chyllid sicrhau trefniadau'r Nosweithiau Rhieni
7 PLASC
7.1 Gweinyddu'r broses o lunio adroddiadau PLASC yn flynyddol gan gydweithio i sicrhau cywirdeb data ar y cyd â'r Rheolwr Busnes.
8 Swyddog Gweinyddol Anghenion Addysgol Ychwanegol
Cwblhau gwaith gweinyddol, dan gyfarwyddyd y Pennaeth a/neu'r Cydlynydd ADY, gan gynnwys:
- Trefnu adolygiadau datganiadau a Chynlluniau Datblygu Unigol.
- Gweinyddu profion darllen.
- Cysylltu ag asiantaethau allanol.
- Cofnodi cyfarfodydd.
9 Cyfrifoldeb am gadw ffeiliau disgyblion yn gyfredol.
10 Tasgau eraill
Hefyd, bydd y Swyddog Gweinyddol, ar y cyd ag aelodau eraill o'r Tîm Gweinyddol, yn:
- darparu gwasanaeth ysgrifenyddol i'r Pennaeth a'm Rheoli, gan gynnwys teipio, ffeilio, cadw dyddiadur a.y.b.
- ymgymryd â thasgau gweinyddol cyffredinol eraill
- cynnal a chadw rhwydwaith gyfrifiadurol weinyddol
- dirprwyo yn absenoldeb y Rheolwr Busnes, dan gyfarwyddyd y Pennaeth
- casglu a bancio arian yn ôl yr angen
- ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd rhesymol arall sy'n gydnaws â natur gyffredinol y swydd ar gais y Pennaeth
- ymgymryd â gwaith teipio/clercyddol i aelodau eraill o staff pan neu os oes amser i wneud hynny.
Mae'r uchod yn disgrifio'r ffordd y disgwylir i'r deilydd weithredu a chwblhau'r dyletswyddau a nodir. Gellir amrywio'r dyletswyddau i gyfarfod â newidiadau mewn gofynion ysgol yn ôl disgresiwn rhesymol y Pennaeth.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi