MANYLION
  • Lleoliad: Litchard Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cogydd – Ysgol Gynradd Llidiart

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cogydd - Ysgol Gynradd Llidiart
Disgrifiad swydd
22.5 awr yr wythnos – tymor yr ysgol yn unig

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod fel Cogydd i reoli a chydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio'r fwydlen, rheoli dognau, paratoi a choginio, dyletswyddau gweinyddu a goruchwylio staff.

Byddai profiad blaenorol o baratoi bwyd a choginio i niferoedd mawr, goruchwylio, dyrannu dyletswyddau a hyfforddi yn fantais, ynghyd â gofynion Iechyd a Diogelwch, diogelwch, dyletswyddau gweinyddol, gofynion deiet arbenigol a diwylliannol, a gwybodaeth am reoliadau COSHH. 

Mae Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon (darperir hyfforddiant). Mae NVQ 2 neu gyfwerth yn ddymunol.

Gallai'r oriau gwaith fod rhwng 9.00am a 2.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 07 December 2023

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person