MANYLION
  • Lleoliad: Swansea,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 11 Ionawr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawe Ysgol Gynradd: Ysgol Gymraeg Tan-y-lan

Cyngor Abertawe
Cyfrifoldeb Cwricwlaidd/ysgol: i'w drafod gan yr ymgeusydd Llwyddiannus

Dymuna Corff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Tan-y-lan, benodi unigolyn ymroddgar, cydwybodol, profiadol a llawn cymhelliant fel athro/athrawes yn yr ysgol.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion sy'n barod i wynebu'r her gyffrous o gyd-weithio law yn llaw â holl randdeiliaid yr ysgol er mwyn sefydlu a datblygu'r ysgol hon yn llwyddiannus i'r dyfodol.

Bydd disgwyl i'r aeold yma:
  • fod yn ymarferydd addysgu ardderchog
  • lwyr ymroi at ragoriaeth mewn perthynas â chyrhaeddiad a safonau disgyblion
  • fod yn barod i ddatblygu a chynnal ethos Gymraeg a Chymreig yr ysgol
  • fod yn barod i rannu a gweithredu'r weledigaeth yr ysgol ymhob agwedd o'i bywyd beunyddiol
  • arddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • arwain, annog ac ysbrydoli eraill
  • ymateb yn gadarnhaol i heriau
  • gyfrannu at weithdrefnau hunanwerthuso

Byddai'r modd o ganu'r piano yn fantais ar gyfer y swydd yma ond nid yn angenrheidiol.

Mae'r gallu i addysgu a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Dyddiad Cau: Dydd Llun, 8/12/2023 (12.00 canol dydd).

Dyddiad cyfwleiadau: 14/12/23.

Gofynnwn i ymgeiswyr i ddychwelyd ei ffurflenni cais drwy e-bost i glerc y llywodraethwyr williamsk1525@hwbcymru.net .

Mae croeso i ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu cysylltu gyda'rysgol I drafod y swydd ym mhellach. Ar gyfer trefnu apwyntiad gofynnwn yn garedig i ymgeiswyr gysylltu â'r pennaeth Mr Berian Wyn Jones yn yr ysgol. Drwy e bost neu ffôn.

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc) [120KB]
disgrifiad swydd - Athro-athrawes (Ysgol Tan-y-lan) (PDF) [328KB]