MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend Campus,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd Celfyddydau Cynhyrchu (Theatr Dechnegol) a delir fesul awr

Coleg Penybont
Darlithydd Celfyddydau Cynhyrchu (Theatr Dechnegol) a delir fesul awr

Disgrifiad o'r swydd Darlithydd Celfyddydau Cynhyrchu (Theatr Dechnegol) a delir fesul awr

Noder, contract a delir fesul awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol – fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £22,904 - £27,030 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)
Cymwysedig: £29,162 - £45,077 y flwyddyn (pro rata, tâl fesul awr)

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont, gan gyfrannu at addysg a datblygiad y genhedlaeth nesaf o weithwyr theatr dechnegol proffesiynol. Fel Darlithydd a delir fesul awr, byddwch yn cynllunio, yn datblygu, yn gwerthuso ac yn cyflwyno cynnwys y cwricwlwm yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn darparu mentoriaeth i fyfyrwyr sydd am ddilyn gyrfaoedd yn y maes theatr dechnegol yn y dyfodol.

Dylai fod gennych wybodaeth weithiol ragorol o’r celfyddydau cynhyrchu/cynhyrchu cefn llwyfan, gyda gwybodaeth a phrofiad cryf mewn theatr dechnegol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) dylunio a gweithredu golau, dylunio a gweithredu sain, fideo a thaflunio, rigio a chynhyrchu neu reoli llwyfan. Dylai fod gennych ddealltwriaeth glir am y diwydiant lleol a chenedlaethol, gyda phrofiad o weithio gyda phobl ifanc a/neu dystysgrif TAR (neu fod yn barod i'w ennill). Gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, fe fyddwch yn frwd dros ysgogi pob dysgwr.

I gael rhagor o wybodaeth bellach, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a chofrestriad fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.