MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Ionawr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Gofal (Nos Effro)

Coleg Penybont
Cynorthwyydd Gofal (Nos Effro)

Disgrifiad o'r swydd
Cynorthwyydd Gofal (Nos Effro)

Rhan Amser

Amser Tymor yn Unig, Cyfnod penodol hyd at 31 Awst 2024

Graddfa gyflog 2: £21,029 (pro rata) / £10.90 yr awr

Noder: bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr oriau ac wythnosau a weithir dros weddill y flwyddyn academaidd.

Pwrpas y rôl hon yw chwarae rôl weithredol wrth gynorthwyo myfyrwyr yn darpariaeth Addysg Bellach arbenigol ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion ifanc ac sydd ag anableddau. Cefnogir y dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer annibyniaeth, eu lles corfforol ac emosiynol, sgiliau bywyd ymarferol, a’u helpu nhw i gyflawni eu hamcanion personol.

Byddwch yn cynorthwyo dysgwyr i baratoi am weithgareddau dyddiol; yn helpu gyda phob agwedd o ofal personol, gan gynnwys ymolchi a mynd i’r tŷ bach; ac yn cynorthwyo gyda rhoi meddyginiaeth iddynt yn unol â’r polisïau. Byddwch yn sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel ac yn lân er mwyn sicrhau bod y risg i ddysgwyr, cydweithwyr ac ymwelwyr i Dŷ Weston yn cael ei minimeiddio. Byddwch yn cynorthwyo i gynnal a chadw dogfennaeth a chofnodi gwybodaeth am fyfyrwyr ac adroddiadau cynnydd myfyrwyr, ac yn gweithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer grŵp bach o ddysgwyr.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gwybodaeth am a dealltwriaeth o amrywiaeth o anableddau gwahanol, megis problemau dysgu corfforol, cyflyrau synhwyraidd, ac awtistiaeth. Bydd profiad o weithio gyda myfyrwyr sydd ag ymddygiadau heriol sy’n ymwneud ag anabledd yn fanteisiol. Mae NVQ Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, neu mae’n rhaid i chi fod yn fodlon ennill y cymhwyster hwn yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn y swydd, yn barod i ennill y cymhwyster Lefel 3 y flwyddyn ganlynol. Felly, mae profiad o weithio gydag anghenion gofal iechyd cymhleth a NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ddymunol.

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.