MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol y Croes)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Addysgu (Arbennig) Lefel 1 (Ysgol y Croes)
Swydd-ddisgrifiad
Rydym, yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Dysgu Lefel 1, sy'n unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig i weithio ochr yn ochr â'r athro CAD yn ein darpariaeth Loeren gyntaf, a agorwyd ym mis Medi 2021 yn Ysgol Gynradd y Groes, Llandrindod. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r ymgeisydd cywir i fod yn rhan o'r trawsnewid cyffrous yma ar ran Cyngor Sir Powys fel rhan o raglen trawsnewid ADY.

Mae'r swydd ar gyfer 32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor ysgol yn unig: Dydd Llun - Gwener

Bydd angen ichi feddu ar gymwysterau addas gydag o leiaf TGAU yn Gymraeg/Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol); bydd gofyn ichi ymrwymo i'ch datblygiad proffesiynol eich hunan, a bod yn fodlon dilyn hyfforddiant priodol arall, gan arwain at gymhwyster NVQ 2 yn ddelfrydol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel aelod o dîm ysgol Penmaes, ond caiff ei leoli yn y ddarpariaeth Loeren, yn gweithio o dan oruchwyliaeth yr athro CAD gyda chyfrifoldeb am y ddarpariaeth.

Bydd y cynorthwyydd dysgu Lefel 1 yn cefnogi'r athro CAD o ran hwyluso addysgu a lles disgyblion unigol neu grwpiau. Byddwch yn darparu'r gofal priodol ar gyfer y disgyblion sy'n dibynnu'n bersonol ar oedolion mewn perthynas â diwallu eu hanghenion. Gall hyn olygu bodloni anghenion o ran defnyddio'r toiled, a gofynion cysylltiedig o safbwynt eu symud â'u trin a thrafod. Bydd angen arfer agwedd ymrwymedig a hyblyg, oherwydd mae lles ein disgyblion hefyd yn hynod bwysig.