MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Ionawr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth a Mathemateg (Ysgol Calon Cymru)

Cyngor Sir Powys
Athro/Athrawes Gwyddoniaeth a Mathemateg (Ysgol Calon Cymru)
Swydd-ddisgrifiad
Ysgol 11-18 oed yng nghanol Powys yw Ysgol Calon Cymru gydag oddeutu 850 o ddisgyblion a chweched dosbarth gweithgar - https://www.ysgolcalon.cymru . Rydym yn falch o'n disgyblion ac yn disgwyl iddynt weithio'n galed i gyflawni a mynd y tu hwnt i'w disgwyliadau.

Rydym am benodi Athro/Athrawes Gwyddoniaeth a Mathemateg sy'n uchel ei gymhelliad ac ymroddedig sy'n gallu dysgu pob cyfnod Allweddol ac sydd am wneud gwahaniaeth i brofiadau addysg a dysgu ein myfyrwyr.

ae'r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i athro ysbrydoledig weithio mewn tîm cefnogol ac egnïol. Rydym yn arbennig o awyddus i benodi arbenigwr Bioleg a byddem yn croesawu ceisiadau gan athrawon profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso. Os oes gennych sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i weithio gydag eraill i godi cyrhaeddiad drwy ysgogi ac ysbrydoli myfyrwyr, yna hoffem glywed gennych.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar wybodaeth bynciol ragorol a bod yn athro / athrawes eithriadol sy'n awyddus i ddatblygu ei ymarfer ac i ddod â llwyddiant parhaus i'n myfyrwyr. Rhaid i chi fedru cynllunio gwersi sy'n ennyn diddordeb a gweithio'n gydweithredol ochr yn ochr ag adran talentog a gweithgar sydd wedi ymrwymo i roi cyfleoedd rhagorol i'n myfyrwyr.

Tra bo canolbarth Cymru yn lle gwych i weithio ynddo, mae'n lle gwirioneddol ardderchog i fyw hefyd, gyda chymunedau clos a chyfeillgar ac amgylchedd naturiol godidog. Mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn hawdd i'w gyflawni ac mae gennym gymaint i'w gynnig i'n poblogaeth leol. Mae gennym ystod eang o gyfleoedd chwaraeon, diwylliannol a chelfyddydol i bob oedran. Mae golff, pysgota, cerdded, seiclo, beicio mynyddoedd, theatrau, sinemâu, Gŵyl Y Gelli Gandryll a sioe Frenhinol Cymru oll ar garreg y drws ac mae amrywiaeth eang o glybiau a grwpiau yn bodoli i apelio at oedrannau a diddordebau gwahanol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Joanne Lumb: lumbj6@hwbcymru.net

Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma'r dyddiadau newydd -
Dyddiad cau: 02/01/2024
Cyfweliadau: 15/01/2024