MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu LRB

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Adran Ddysgu Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Mae angen Cynorthwyydd Cymorth Dysgu ar gyfer:
Canolfan Adnoddau Dysgu y Cyfnod Sylfaen (CAD) - Ysgol Gynradd Dowlais

Cytundeb Dros Dro
Lefel 3
Gradd 3 SCP, 7-12 (£24,294 - £26,421 FTE)
(h.y. SCP 7, 65% o £24,294
= £15,791 p.a. pro rata)

27.5 awr yr wythnos
Yn eisiau ar unwaith
Mae'r Adran Ddysgu am benodi Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu rhagorol, brwdfrydig ac ymroddedig.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn ein CAD Cyfnod Sylfaen sydd newydd ei ffurfio yn Ysgol Gynradd Dowlais gan ddarparu ar gyfer disgyblion 3-7 oed ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol.

Rhaid i chi allu gweithio fel rhan o dîm, meddu ar sgiliau cyfathrebu da, a bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol priodol mewn perthynas ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol.

Bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus, er eu bod yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod Lleol, weithio mewn ystafell ddosbarth o dan gyfarwyddyd y Pennaeth/Grwp Rheoli.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd wag uchod, cysylltwch â Jill Watkins ar 07973382854

Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad GDG manylach.

Dyddiad cau: Dydd Iau Tachwedd 30ain
Llunio rhestr fer: Dydd Gwener Rhagfyr 1af
Cyfweliadau: Dydd Llun Rhagfyr 4ydd pm

Gellir llenwi ffurflenni cais ar-lein yn www.merthyr.gov.uk

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais trwy ffonio 01685 725000 a dylid eu dychwelyd erbyn dydd Iau 30 Tachwedd 2023 fan bellaf i'r Weinyddiaeth AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw geisiadau a gwblheir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg.

Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus ar gyfer cyfweliad cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod i ni os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Cynhelir gwiriadau cyn-cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.

Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gydymffurfio â'i gyfrifoldebau unigol a sefydliadol o dan y Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth a pholisïau gweithredol ategol perthnasol. Ni ddylai unrhyw faterion o natur gyfrinachol gael eu datgelu na'u trosglwyddo i unrhyw bersonau anawdurdodedig neu drydydd parti o dan unrhyw amgylchiad naill ai yn ystod neu ar ôl cyflogaeth ac eithrio yng nghwrs priodol eich cyflogaeth neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall unrhyw achos o dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal i bob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, a beichiogrwydd a mamolaeth