MANYLION
  • Lleoliad: Anglesey,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Uwch Reolwr - Gwasanaethau Archifau, Amgueddfa ac Oriel

Cyngor Sir Ynys Mon
Disgrifiad

Gwasanaeth: Dysgu

Adran: Archifau, Amgueddfa ac Oriel

Oriau: 37 awr yr wythnos

Cyflog: Graddfa 8, £44,428 - £47,420 y flwyddyn

Cytundeb: Dros dro - cyfnod mamolaeth

Cyfweliadau: 13 Rhagfyr 2023

Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn deinamig ymgymryd â rôl Uwch Reolwr yn Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn, yn ystod cyfnod mamolaeth. Fel yr Uwch Reolwr, byddwch yn gyfrifol am reolaeth weithredol Archifau Ynys Môn ac Oriel Môn. Gan weithio'n agos gyda thîm profiadol o staff oriel, amgueddfa ac archifau, byddwch yn goruchwylio swyddogaethau ddydd i ddydd y gwasanaethau ac yn chwarae rhan ganolog yn eu llwyddiant a'u datblygiad parhaus.

Gallai'r rôl hon fod yn gyfle secondiad i aelod mewnol o staff.

Gweler y Swydd Ddisgrifiad ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person fel ffeil PDF.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r manyleb person i'ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.

** Ni ddylai staff Cyngor Sir Ynys Môn ymgeisio drwy'r dudalen allanol, bydd angen i chi fewngofnodi drwy Ddangosfwrdd Amdanaf I i wneud cais. Os na fyddwch yn gwneud cais drwy Dangosfwrdd Amdanaf I, yn anffodus ni dderbynnir eich ffurflen gais. **

Er mwyn gwneud cais am y swydd hon, rhaid i chi allu darparu'r atebion gofynnol i'r cwestiynau canlynol:
  • Ydych chi'n gyflogedig gan Gyngor Sir Ynys Mon (gan gynnwys staff wrth gefn)? Os ydych, gwnewch gais trwy Dangosfwrdd Amdanaf I. Os nad ydych yn gyflogedig, dewiswch 'Na' a pharhewch hefo'ch cais.