MANYLION
  • Lleoliad: Queen Elizabeth High School, Carmarthen,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 - Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Swydd dros dro tan 31/08/2024.

30 awr yr wythnos

Rydyn ni'n awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig ac ymrwymedig (TA) Lefel 1.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu gyda chefnogaeth a chynhwysiant y disgyblion gydag ystod o anghenion dysgu, anawsterau emosiynol ac anawsterau ymddygiad mewn gwersi yn y brif ffrwd o gwmpas yr ysgol. Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn gweithio'n agos gyda'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo), athrawon dosbarth a staff cymorth eraill.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Jenna Evans ar 01267 245300 / jenna.evans@qehs.carms.sch.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: