MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cynorthwyo Prosiectau CC/2497

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad 'Rhagorol' yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Cynorthwyo Prosiectau

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Llawn Amser, parhaol

Cyflog: £26,842 - £29,380

Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Cynorthwyo Prosiectau rhagweithiol a threfnus i ymuno â'n tîm Cyllid a Phrosiectau. Bydd deiliaid y swydd hanfodol hon yn cynorthwyo gyda'r gwaith o gydlynu a monitro ariannol prosiectau a ariennir yn allanol, gan gynnwys gweinyddu Cyfrifon Dysgu Personol. Bydd sgiliau rheoli prosiectau y gellir eu profi yn allweddol gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo staff y cwricwlwm gyda gweinyddu a datblygu prosiectau dynodedig. Byddant hefyd yn paratoi ffurflenni ystadegol ac ariannol yn unol â gofynion y darparwr cyllid. Bydd gofyn i ddeiliaid y swydd ffurfio perthnasoedd gwaith effeithiol gyda rhanddeiliaid amrywiol fel; Is-bennaeth Dysgu yn y Gwaith ac Ymgysylltu â Chyflogwyr, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Ymgysylltu â Chyflogwyr, Arbenigwr Cyllid a Phrosiectau, Asiantaethau allanol yn ôl yr angen, a'r Tîm Cyllid a Phrosiectau.

Bydd disgwyl i ddeiliaid y swydd gynorthwyo trwy ddarparu cymorth ac arweiniad lle bo'n briodol i reolwyr y coleg mewn perthynas â rheoli ariannol a gwneud penderfyniadau am weinyddu prosiectau.

Gofynion Hanfodol
  • NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes neu gymhwyster cyfwerth.
  • Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch
  • Cymhwyster Lefel 2 Llythrennedd Digidol neu'n fodlon gweithio tuag at hynny
  • Profiad o weithio mewn swyddogaeth gynorthwyol gyda phrosiectau, gan gynnwys llunio a chynnal a chadw systemau gwybodaeth.
  • Profiad blaenorol o weithio mewn swyddogaeth cymorth gweinyddol gan gynnwys llunio a chynnal a chadw gwybodaeth ariannol/hawliadau.
  • Sgiliau rheoli prosiect da
  • Gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office, a MS Word ac Excel ar lefel ganolraddol. Gallu defnyddio rhaglenni Google.
  • Gallu datrys problemau a gwneud penderfyniadau ariannol lefel isel sydd o fewn cyfyngiadau gweithdrefnau a rheoliadau ariannol

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig