MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Coed a Phren CC/2501

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Coed a Phren

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Rhan-amser, Parhaol (22.2 awr yr wythnos)

Cyflog: £30,908- £34,832(dyma’r cyflog llawn amser, bydd y cyflog yn pro rata yn ddibynnol ar eich patrwm gwaith)

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith mewn Coed a Phren.

Bydd yr Ymarferydd yn asesu’r ystod lawn o gymwysterau mewn Coedyddiaeth, Coed a Phren. Bydd ganddynt y cymwysterau sy’n cael eu rhestru isod, a phrofiad diwydiant diweddar o weithio ar y lefel hon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda llwyth achosion o ddysgwyr ac yn cynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi. Byddant yn cofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol ac yn darparu cyfleoedd annog, mentora a dysgu iddynt. Bydd yr Ymarferydd yn cyflwyno sesiynau gwybodaeth greiddiol i ddysgwyr naill ai mewn sesiwn 1-1 neu weithdy (rydym yn argymell uchafswm o 8 mewn grŵp)

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn monitro cynnydd dysgwyr tuag at ennill eu cymwysterau, rhoi adborth cadarnhaol iddynt a’u helpu i baratoi e-bortffolio o dystiolaeth. Yn ogystal â hyn byddant yn asesu portffolios dysgwyr a chyflwyno portffolios sydd wedi eu cwblhau ar gyfer prosesau sicrhau ansawdd mewnol.

Gofynion Hanfodol
  • Bod yn gymwys i Lefel 3 neu uwch mewn Coedyddiaeth/Coed a Phren
  • Bod yn gymwys mewn cynnal a chadw llif gadwyn, trawstorri, torri a phrosesu coed hyd at 380mm
  • Bod yn gymwys i ddringo coed ac achub o uchder
  • Bod yn gymwys i ddefnyddio’r sglodwyr coed
  • Bod yn gymwys i ddefnyddio torwyr prysgoed, holltwr boncyffion a llifiau clirio neu fod yn barod i weithio tuag at hynny
  • Cymhwyster asesydd (TAQA) neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny
  • Cymhwyster Sicrhau Ansawdd (Uned 401 TAQA ar hyn o bryd) neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny
  • Cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 (neu gymwysterau cyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch
  • Cymhwyster Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol neu’n barod i weithio tuag at un
  • Profiad o gysylltu â rheolwyr diwydiant a phartneru â nhw
  • Gallu dangos ymrwymiad i gynnal a datblygu safonau ansawdd mewn addysg

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig