MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Pendalar, Caernarfon,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gofalwr - Ysgol Pendalar

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION ADDYSG ARBENNIG

YSGOL PENDALAR, CAERNARFON

(Arbennig 3 - 19: 118 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Cyn gynted a phosib

GOFALWR

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £24,294 - £25,979 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Dirprwy Bennath, Mr Deiniol Harries. (Rhif Ffôn 01286 672141)

e-bost: Deiniol.harries@pendalar.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Sophie Eames, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Pendalar, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd (Rhif Ffôn: 01286 672141). Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 6 O RAGFYR, 2023.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(This is an advertisement for a Caretaker at Ysgol Pendalar, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

SWYDD GOFALWR YSGOL PENDALAR

Rhestr Dyletswyddau
  • DIOGELWCH

  • Er y bydd ymgymerwr glanhau yn gyfrifol am ddiogelwch ysgolion yn ystod ac ar ddiwedd y cyfnod glanhau bydd gofalwr yr ysgol yn gyfrifol am:-
    • Cyn agor yr ysgol yn y bore datgloi drysau allanol a'r holl ddrysau mewnol fel y nodir gan y pennaeth
    • Dal goriadau'r sefydliad.
    • Ateb galwadau allan i ymateb i larwm yn canu.
    • Agor a chau safleoedd ac adeiladau ysgol tu allan i oriau arferol ysgol.
    • Rhwystro tresmas ar dir ac adeiladau'r ysgol.

    Ar adegau pan fydd gwaith cynnal a chadw yn digwydd yn yr ysgol neu ar adegau eraill yn ôl dymuniad y pennaeth neu Bensaer y Sir gellir darparu goriadau i bartïon eraill a gellir nodi na fydd disgwyl i'r gofalwr fod yn gyfrifol am agor a chau adeiladau ac am ddiogelwch yn ystod y cyfnodau yma.
  • GWRES GOLAU A GWASANAETHAU MECANYDDOL
    • Yn ystod cyfnodau twymo'r adeilad fel y nodir gan bennaeth y sefydliad bydd yn sicrhau bod y system gwresogi yn gweithio yn addas fel ag i sicrhau y bydd y tymheredd priodol yn cael ei gyrraedd erbyn amser agor yr ysgol.
    • Pan fydd y system gwresogi yn cael ei reoli gan systemau awtomatig bydd y gofalwr yn sicrhau fod y system yn gweithio yn dderbyniol cyn agor y sefydliad.
    • I adrodd i bennaeth y sefydliad ar unrhyw ddiffygion a welir i wresogyddion unigol neu i'r system gwresogi yn gyffredinol.
    • Ar gau sefydliad i ofalu fod y gwresogyddion/systemau twymo canolog wedi eu gosod yn briodol fel y bo'r tywydd yn mynnu.
    • Sicrhau fod gwresogyddion ac yn y blaen yn glir o offer fyddai'n llosgi.
    • Cadw golwg dyddiol 'Air Conditioning Unit' ei fod yn gweithio ar y lefel sydd angen yn y pwll hydrotherapi, neuadd, gegin, ac addasu'r tymheredd os fydd angen.
    • I gadw golwg ar y defnydd o drydan, nwy a dŵr drwy ba system bynnag y bydd yr Awdurdod/Ysgol yn ei mabwysiadu. Mae'r system bresennol yn golygu nodi darlleniad mesuryddion yn fisol ar gardiau fel y gellir mesur y defnydd.
    • I gadw ystafelloedd boiler ac offer cynhesu yn lân a thwt ac yn glir o offer fyddai'n llosgi.
    • I ail-osod neu trefnu plygiadu, ffiwsys, bylbiau a thiwbiau trydan, lampau a gorchuddion goleuadau fel y bo angen.
    • Pan nad yw'r cyflenwad dŵr i'r iwreinals yn cael ei reoli yn awtomatig troi'r dŵr ymlaen cyn agor yr ysgol.
    • Pan nad yw'r cyflenwad dŵr i'r iwreinals yn cael ei reoli yn awtomatig troi'r dŵr i ffwrdd ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Os defnyddir yr ysgol gyda'r nos dylid gohirio'r dasg yma tan ddiwedd y gosodiad.
    • Tynnu'r aer o reiddiaduron.
    • Offer Toiledau - Ail osod wasiers, plygiau a chadwyni.
    • Peipiau Dŵr Wast - Glanhau trapiau, peipiau dŵr wast, carthffos "anti-syphonage pipe, wire balloon guards, sleeves and flashing to pipes including grid covers to gullies. Renewal of pipework clips".
    • Peipiau wedi Rhewi - Troi cyflenwad dŵr i ffwrdd yn y prifion a hysbysu Adran y Pensaer o'r sefyllfa fel y gellir trefnu i atgyweirio.
    • Boileri - Galw peirianwyr gwasanaethu allan mewn argyfwng. Dylid hysbysu'r Awdurdod Lleol pan digwydd hyn.
    • "Service Distribution Systems" - Ail-osod bracedau, peipiau a rheiddiaduron, glanhau offer cynhesu a hidlyddion.
    • Clychau Larwm/Amseru - Cynnal, gwasanaethu ac ail-osod larwm argyfwng ac amseru. Ail-osod gwydr mewn bylchau. Yn ddyddiol bydd rhaid monitro CCTV yr ysgol, monitro a gosod larwm yr ysgol a sefydlu 'Ceiling Dome Camera Unit' yn nosbarthiadau blynyddoedd cynnar os bydd angen.


  • GLANHAU A CHYNNAL ALLANOL

  • Nid yw'r Contract Glanhau cyffredinol yn cynnwys glanhau allanol. Bydd y glanhau allanol a nodir isod yn gyfrifoldeb i ofalwyr yr ysgol.
    • Yn ddyddiol clirio a glanhau pob man allanol dan do, porches a llefydd chwarae caled o offer a allai fod yn beryglus neu yn anharddu'r safle, e.e. caniau gwag, gwydr wedi torri a photeli.
    • I gadw pob lle chwarae caled, ffyrdd, llefydd parcio, llwybrau, corlannau, ac yn y blaen yn glir o chwyn, cerrig rhydd, ysbwriel, e.e. gwydr, tyniau, poteli, papur dail, gwellt ac ysbwriel arall. I glirio eira fel y bo angen a gwasgaru halen i sicrhau llwybrau clir a diogel tuag at yr adeilad yn ystod cyfnodau o eira neu rew.
    • I gadw trapiau, gwterydd, peipiau dŵr glaw yn glir a glanhau trapiau saim yn wythnosol.
    • Gwagio biniau allanol i fagiau plastig fel y gellir eu gwaredu. Gosod bagiau plastig newydd. Cynnal a chadw biniau ag offer arall dal ysbwriel ac yn y blaen.
    • Palu a chwynnu gwelyau blodau a llefydd eraill wedi eu plannu i sicrhau eu bod yn glir o chwyn. Bydd y tasgau yma yn cynnwys plannu, tocio, strimio a chynnal planhigion a llwyni a blodau yn gyffredinol.
    • Glanhau y tu allan i ffenestri allanol.
    • Gwaith Coed Allanol - Cynnal arwyddion, polion fflag, seddi, giatiau ac offer allanol eraill.
    • Offer Dal Sbwriel Mawr - gofalu eu bod yn cael eu clirio a'u gosod yn ôl yn y llefydd cywir. Hysbysu'r ymgymerwr lle i osod sgip a bod y sgip yn cael ei ddefnyddio yn briodol. Sicrhau fod sach bin yn cael eu rhwymo'n briodol pan yn llawn.
    • Draeniau Prifion - Sicrhau fod draeniau a cwterydd yn glir ac yn llifo'n rhydd.
    • Atgyweirio a chynnal waliau a ffensys.
    • Cynnal a chadw llefydd chwarae caled, e.e. ail-osod slabiau palmant.
  • DYLETSWYDDAU CARIO
    • Yr ysgol sy'n gyfrifol am ddarparu tyweli papur, papur toiled a sebon. Bydd y gofalwr yn gyfrifol am sicrhau fod cyflenwad digonol o'r offer yma yn y llefydd priodol drwy'r sefydliad.
    • Cario post, parseli, laundri ac yn y blaen i'r man casglu.
    • Symud dodrefn mewn ystafelloedd ac o ystafell i ystafell fel y bo angen.
    • Weindio clociau ysgol a'u gosod ar yr amser cywir.


  • CYNNAL A CHADW
    • adrodd i bennaeth y sefydliad ar unrhyw ddifrod a welir i eiddo'r ysgol ac am nam i ddraeniau ac yn y blaen na all y gofalwr eu trin.
    • Cynnal a chadw a glanhau trapiau, gwterydd a draeniau gan gynnwys rodio.
    • Gosod wasiers newydd fel bo angen.
    • Yn achlysurol archwilio cyflwr dodrefn ac adrodd i'r pennaeth ar unrhyw ddiffygion amlwg a welir.
    • Gwydro - Byrddio ffenestri dros dro pan fydd y gwydr wedi eu torri ac os yn bosibl ail-osod chwareli bychan o wydr.
    • Mân atgyweirio mewnol ac allanol i sicrhau edrychiad twt.
    • Gorchuddion Lloriau - Atgyweirio gorchuddion lloriau a grisiau gan gynnwys sgerting, blaen grisiau, carped, lino, gorchuddion Thermoplastig a.y.y.b.
    • Offer Mewnol - Cynnal ac adnewyddu offer dal papur toiled, tyweli, drych, pegiau dal cotiau ac offer ffenestri a drysau.
    • Gosodion Pren Mewnol - Atgyweirio a gosod unedau cegin, cadeiriau, desgiau, cypyrddau, silffoedd, reiliau dal lluniau, byrddau arddangos, meinciau, cownteri a.y.y.b.
    • Platiau Enw, Llenni a.y.y.b. - Atgyweirio, amnewid a glanhau arwyddion mewnol, traciau llenni.
    • Gofalu fod offer ymladd tân yn y llefydd priodol fel y nodir gan y Prif Swyddog Tân. Hysbysu'r pennaeth os oes diffoddwyr tân wedi eu gollwng neu os oes peipiau diffodd tân yn ymddangos wedi breuo neu torri.


  • AROLYGU
    • Llenwi amserlen yn wythnosol a dyletswyddau papur eraill (TR84 A TR89).
    • Cyfeirio gweithwyr ac ymgymerwyr a'r safle i'r llefydd gwaith.
    • Gofalu fod offer a ddarperir ar gyfer gwaith gofalu yn ymddangos yn ddiogel a hysbysu'r pennaeth o unrhyw ddiffygion a ddaw yn amlwg.


  • AROLYGU GWAITH YMGYMERWR
    • I gadw llygad ar safon gwaith yr ymgymerwr glanhau.


  • ARGYFYNGAU
    • Sicrhau mynediad i'r ysgol neu'r dosbarthiadau fel y bo angen mewn adegau o eira, llifogydd neu argyfyngau cyffelyb.
    • Dilyn y drefn gydnabyddedig mewn achlysuron o dân, llifogydd, torri mewn, damweiniau neu ddifrod. Disgwylir i ofalwyr wybod am leoliad offer a defnyddiau cymorth cyntaf, tapiau a llefydd troi cyflenwadau i ffwrdd.


  • CYFFREDINOL
    • Ymgymryd a'i waith gan achosi cyn lleied ag sydd modd o drafferth i drefn yr ysgol a defnyddwyr gyda'r nos.
    • I fod o gwmpas a chadw llygad ar ymddygiad plant yn gyffredinol gan adrodd i'r pennaeth neu athrawon eraill os cyfyd problemau.
    • I ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol a chyfarwyddyd a chais y pennaeth neu ei gynrychiolydd.
    • Paratoi'r neuadd ar gyfer gwasanaeth boreol, cyngherddau, dramâu neu weithgaredd arall, cadw cadeiriau yn y storfa.
    • Gosod y neuadd ar gyfer gweithgaredd 'cinio gwlyb' neu gwersi addysg gorfforol cynradd.


  • PWLL HYDROTHERAPI
    • Mae angen cadw golwg ar tymheredd y dŵr yn ddyddiol ac addasu'r tymheredd os bydd angen. Cario allan profion ar lefelau 'PH, chlorine, alkaline, calcium hardness, TDS' 3 gwaith y diwrnod, a'i newid os oes angen fel bod y pwll yn sâff i'w ddefnyddio.
    • Oherwydd natur y pwll hydro (ei dymheredd) gall 'germs' wasgaru yn gynt. Oherwydd natur ein plant, RHAID sicrhau o leiaf 3 'check' y diwrnod. Os bydd angen i 'dosio' gyda'r cemeg 'Hypochlorite' (Chlorine) a CO².
    • Sicrhau fod gennyt dystysgrif 'Pool Plant Operator' mewn dyddiad.
    • Derbyn hyfforddiant pob 3 mlynedd 'Pool Procedure' i sicrhau fod defnydd y pwll yn sâff i ddefnyddwyr.
    • Dyletswydd i archebu a chynnal cemegau at ddefnydd y pwll.


  • DYLETSWYDDAU WYTHNOSOL
    • Cadw golwg ar system ffiltro dŵr glaw.
    • Cadw golwg ar 'septic tank monitor' rhag bod yna rwystr.


  • DYLETSWYDDAU ARALL
    • Cadw record ffobs dyfodiad cyfrifiadurol ar gyfer holl staff yr ysgol ac ymwelwyr.
    • Arwyddo contract blynyddol poteli nwy a.y.y.b.
    • Cofrestru goriadau yr ysgol hefo'r heddlu.
    • Cynnal a chadw tir yr ysgol, e.e. torri gwair, cynnal peiriannau yma.
    • Gofalu am fysus mini yr ysgol h.y. MOT, TAX, yswiriant, 'tail-liffts'. Gwaith cynnal a chadw y bysus - mynd i Cibyn am waith arnynt.
    • Rhyddhau a chymryd lle yr ysgrifenyddes (yn ei habsenoldeb)
    • Cludo disgyblion ar fws mini pan fo angen.


    • Ceisio ar lein - Sut?
    • Rhestr Swyddi