MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Trefonnen)

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Trefonnen)

Cyngor Sir Powys
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Trefonnen)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol ysbrydoledig, gofalgar a chreadigol sydd yn gwneud dysgu'n hwyl i bawb.

Swydd llawn amser dros gyfnod penodol: Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

15 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener / 38 wythnos ynghyd â hawl gwyliau pro-rata - Graddfa 4

Ei angen rhwng 1.1.24 - 31.12.24

Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol fro, wirfoddol a reolir, ddwy ffrwd yr Eglwys yng Nghymru, i blant 4 - 11 oed. Mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai'n Saesneg. Ond mae pob un o'n disgyblion yn rhannu'r profiad o fyw a dysgu yng Nghymru. Yn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, grŵp rhieni a phlant bach, a Ti a Fi (grŵp rhiant a babanod dwyieithog), grŵp cyn ysgol Blynyddoedd Cynnar (yn Saesneg) a Chylch Meithrin (grŵp cyn ysgol Cymraeg) a dau lleoliad Dechrau'n Deg wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Rydym angen cynorthwyydd cymorth dysgu i gefnogi dysgu disgyblion yn Ysgol Trefonnen. Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu sy'n:
  • llawn brwdfrydedd ac yn meddu ar y gallu i lunio perthnasoedd rhagorol â phlant.
  • gyfathrebwr da
  • meddu ar ddisgwyliadau uchel o addysgu ac ymddygiad
  • gweithio'n dda fel rhan o dîm
Yn gyfnewid gallwn gynnig i chi:
  • dîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
  • disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
  • amgylchedd dysgu gofalgar gydag adnoddau da
  • partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Disgwylir i ymgeisgwyr gael gwiriad datgelu a gwahardd.

Dyddiad Cau: 6.12.23

Dyddiad y cyfweliad: I'w gadarnhau