MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 a Cymhorthydd Goruchwylio Canol Dydd

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd y Rofft

Lôn Wynnstay

Merffordd

Wrecsam

LL12 8LA

Ffôn: 01978 853116

Pennaeth: Mr G Morris

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1

26.25 awr yr wythnos

G03: £13,134 - 13,352 - £12,346 y flwyddyn

Cymhorthydd Goruchwylio Canol Dydd

2.5 awr yr wythnos

G02: £1,230 y flwyddyn

Swyddi Parhaol

Yn ystod y tymor yn unig

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu yn ein Huned Darpariaeth ag Adnoddau, sydd wedi'i hatodi i'n hysgol prif ffrwd.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif uchod.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y ddwy swydd.

Mae gofyn bod yn gofrestredig â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd Cymhorthydd Addysgu.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.

Mailbox@rofft-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 12 hanner dydd 29/11/2023