MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Arddangoswr Cyrsiau'r Tir CC/2503

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriado
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr Cyrsiau’r Tir

Lleoliad: Llysfasi

Math o Gontract:Llawnamser,Parhaol

Cyflog: £24,590 - £28,477

Mae gennym ni swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Hyfforddwr Arddangoswr Cyrsiau’r Tir.

Fel Hyfforddwr Arddangoswr yng Ngholeg Cambria Llysfasi, bydd yr unigolyn yn darparu addysg ymarferol cyrsiau’r tir, gan roi gwybodaeth am waith ystadau, gyrru tractor, peiriannau amaeth/coedwigaeth a rheoli coedwig gynaliadwy. Mae cydweithio â staff academaidd yn hanfodol ar gyfer alinio arferion coedwigaeth ymarferol â'r seiliau damcaniaethol a ddarperir yn yr ystafell ddosbarth, ac mae'r swydd yn cynnwys asesu cymhwysiad myfyrwyr o sgiliau mewn senarios byd go iawn ar y tir.

Yn ogystal, mae'r swydd yn cynnwys cyflwyniad i egwyddorion peirianneg amaethyddol, lle bydd yr arddangoswr yn arwain myfyrwyr drwy hanfodion peiriannau a ddefnyddir mewn coedwigaeth ac amaethyddiaeth. Mae'r ffocws deuol hwn yn gofyn am ddealltwriaeth gyfoes o safonau'r diwydiant ac ymrwymiad i hyrwyddo stiwardiaeth amgylcheddol ochr yn ochr ag effeithlonrwydd technolegol. Felly mae swydd yr arddangoswr yn gyfuniad o addysgu arferion coedwigaeth craidd ac integreiddio cysyniadau peirianneg amaethyddol hanfodol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer natur amlochrog gyrfaoedd rheoli tir gwledig.

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc proffesiynol perthnasol
  • Dangos eich bod chi’n deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch chi’n sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
  • Profiad diwydiannol diweddar yn y maes arbenigol perthnasol
  • Gallu cyflwyno sesiynau ymarferol effeithiol o ansawdd uchel yn hyderus sy'n gwella dysgu i'n myfyrwyr.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig