MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cogydd Cynorthwyol Lefel 1 (Ysgol Dafydd Llwyd)

Cyngor Sir Powys
Cogydd Cynorthwyol Lefel 1 (Ysgol Dafydd Llwyd)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:

Cynorthwyo o ran paratoi, coginio, gweini neu gyflenwi bwyd mewn un o adeiladau Cyngor Sir Powys, trwy ddefnyddio adnoddau'n effeithiol yn unol â'r Ddeddf Diogelwch Bwyd, cydymffurfio â safonau maethol / iechyd corfforaethol yn unol â holl weithdrefnau, polisïau a deddfwriaeth perthnasol Llywodraeth Cymru. Gall hyn olygu prydau bwyd ar gyfer ysgolion, bwytai, gwasanaeth pryd ar glud, cinio bys a bawd ac ati.

Hyrwyddo'r Gwasanaeth Arlwyo trwy ddigwyddiadau hyrwyddo ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid.

Amdanoch chi:
  • Gallu ymdopi â gofynion corfforol y swydd
  • Gallu ymateb i adegau prysur o ran llwyth gwaith, bodloni amserlenni a chyflenwi'r gwasanaeth angenrheidiol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm ac arwain ar adegau absenoldeb staff
  • Meddu ar agwedd hyblyg o ran amseroedd y diwrnod gwaith mewn argyfwng
Eich dyletswyddau:
  • Cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Diogelwch Bwyd bob amser a Pholisîau a Gweithdrefnau Gwasanaeth Arlwyo Powys gan gynnwys y Polisi Hylendid a Golchi Dwylo. Sicrhau y cynhelir safonau da o ran arferion gweithio diogel bob amser.
  • Cynorthwyo gydag agweddau megis rheoli stoc, cadw, paratoi, coginio, cyflenwi a gweini prydau bwyd ar ac oddi ar y safle, a bod arferion casglu arian yn cael eu bodloni'n unol â gofynion y gwasanaeth.
  • Cynorthwyo o ran sicrhau y caiff prydau bwyd eu gweini, a'u bod yn cydymffurfio â chanllawiau maethol ac ariannol Llywodraeth Cymru gan reoli dognau gan gynnwys dietau arbennig.
  • Cadw cofnodion cywir yn ôl y gofynion.
  • Cynorthwyo gyda pharatoi bwydlenni a llunio costau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth arlwyo.
  • Cynorthwyo o ran gwerthuso lefelau staffio, rotas staffio, hyfforddi staff yn y swydd a datblygu bwydlenni

  • Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, croeso ichi gysylltu â'r Rheolwr Arlwyo Ardal, Jayne Perry ar 01686 611589

    Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon