MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Lefel 1 - Cynorthwyydd Addysgu - Iau

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol yr Holl Saint

Allt yr Ysgol

Gresffordd

Wrecsam

LL12 8RW

Wrecsam

01978 852342

Pennaeth: Mr Richard Hatwood

Cymhorthydd Addysgu - Lefel 1

Swydd Dros dro - 30 awr yr wythnos (Tan 31.08.2024)

Graddfa 03

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu (Lefel 1) i weithio dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth i ddarparu cefnogaeth i ddisgyblion, yn cynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y rôl yn yr Adran Iau.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Richard Hatwood ar 01978 852342 neu drwy e-bostio, headteacher@allsaints-pri.wrexham.sch.uk.

Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael eto ar gyfer swyddi mewn ysgolion; felly llenwch y ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig.

Llenwch y ffurflen gais a'i dychwelyd i'r Pennaeth yn yr ysgol -headteacher@allsaints-pri.wrexham.sch.uk (ceisiadau e-bost yn unig os gwelwch yn dda).

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.