MANYLION
  • Lleoliad: Pontardawe,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Teaching Assistant Level 3

Teaching Assistant Level 3

Cyngor Castell-nedd Port Talbot
SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 3

Dros Dro am flwyddyn

(yn y man cyntaf gyda'r posibilrwydd i fod yn barhaol

27.5 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

Ar gyfer: 8fed o Ionawr 2024

Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn yr Adran Iau, o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.

Mae ysgol Gymraeg Pontardawe yn gymuned hapus a chyfeillgar gydag ethos gofalgar a chefnogol. Cafwyd yr ysgol ei harolygu gan ESTYN ym Mai 2022 lle gofynnwyd i'r ysgol am lunio astudiaeth achos ar y cwricwlwm newydd i Gymru i'w chyhoeddi ar eu gwefan.

Mae'r swydd yma am 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn am un tymor yn unig yn y man cyntaf gyda'r posibilrwydd o ymestyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Pontardawe for which the ability to speak Welsh is essential

Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mr Martin Evans, Pennaeth ar 01792 862136.

Gallwch lawrlwytho pecyn cais o www.eteach.com neu cysylltwch â'r ysgol drwy e -bost neu drwy ffonio 01792 862136, gan ddyfynnu teitl y swydd a'r rhif cyfeirnod . Dylai ffurflenni cais wedi'u cwblhau gael eu dychwelyd i Ysgol Gymraeg Pontardawe, Rhodfa Alltacham, Pontardawe, SA8 4JR .

Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw DYDD GWENER, 24ain o Dachwedd, 2023.