MANYLION
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Tiwtoriaid Rhifedd

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Tiwtoriaid Rhifedd

Graddfa Gyflog £27.78 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)

Yn ogystal â phecyn buddion a gwyliau hael

Mae gan Adult Learning Wales | Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych i diwtoriaid cymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau Rhifedd i ddysgwyr yn ardaloedd De Ddwyrain Cymru. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr ac Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, i gefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.

Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio'n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):

- Cynllunio a pharatoi cyrsiau - paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.

- Cefnogi dysgwyr - Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'u llwybrau dilyniant.

- Cyffredinol - ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.

Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Os hoffech sgwrs anffurfiol neu i glywed mwy am y rôl cysylltwch â Jayne Ireland, Rheolwr Rhanbarth De Ddwyrain Cymru ar Jayne.Ireland@adultlearning.wales

Ymgeisiwch erbyn 9.00yb Dydd Gwener 24 ain Tachwedd 2023 gan ddefnyddio'r ffurflen gais nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â'r profiad a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r rôl hon.