MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ionawr, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth

Teitl y Swydd: Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Sy’n Siarad Cymraeg)

Lleoliad: Iâl

Y Math o Gontract: Parhaol - Llawn Amser

Cyflog: Academic M1 - UP3 £26,911 - £41,598

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gyflwyno ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol CBAC/City & Guilds Lefel 2 ac uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, mae’n rhaid i chi gael profiad a chymhwysedd y gellir ei brofi un ai mewn nyrsio neu mewn gofal oedolion a chymhwyster Lefel 3 yn yr pwnc Iechyd a Gofal Cymdeithasol o leiaf a rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg. Dyma gyfle gwych i unigolyn sy’n gobeithio cychwyn eu gyrfa mewn addysg.

Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i’n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu bwnc sy’n broffesiynol berthnasol (e.e. Nyrsio, Gofal Oedolion ac ati)

Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar

Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun

Gallu cyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
JOB REQUIREMENTS
Essential Requirements

Qualified to a minimum of Level 3 in Health and Social Care or a professionally relevant topic (eg: Nursing, Adult Care etc)

Excellent communication skills both written and verbal

Self motivated, well organised and able to work independently using own initiative

Ability to communicate effectively through the medium of Welsh