MANYLION
  • Lleoliad: Bangor, Gwynedd, LL57 2JA
  • Testun: Rheolwr Cwricwlwm ardal
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,665 - £30,790
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2021 5:30 y.p

This job application date has now expired.

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Am y swydd
Byddwch yn cynorthwyo ac yn cefnogi datblygu a gweithredu rhaglen gydlynus o ddarpariaeth dysgu oedolion gan gynnwys pob agwedd o gynllunio, ariannu, trefnu a dyrannu adnoddau a datblygiad. Byddwch yn mynd ati i recriwtio nifer hyfyw o ddysgwyr ar y ddarpariaeth trwy rwydweithio, cydweithio a hyrwyddo a datblygu partneriaethau a chyfleoedd cydweithio gydag ystod o gyrff allanol. Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd dysgu ar draws y rhanbarth gan weithio ar y cyd â thîm Rhanbarth y Gogledd. Byddwch yn allweddol wrth gynorthwyo’r Rheolwr Rhanbarthol i sicrhau fod yr holl weithgareddau dysgu yn cyrraedd targedau'r ddarpariaeth a gytunwyd arnynt, cyllid ac ansawdd.



JOB REQUIREMENTS
Amdanoch chi
Mae cymhwyster addysgu lefel 3 a Dyfarniad Asesydd lefel 3 neu ragflaenydd yn hanfodol. Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion neu waith datblygu cymunedol, a gwybodaeth brofiadol o weithgareddau hyrwyddo neu farchnata yn y gymuned. Bydd gennych wybodaeth, sgiliau a phrofiad sylweddol o gynllunio, cyflwyno a chydlynu cyfleoedd addysgu wyneb-i-wyneb ynghŷd â dysgu cyfunol ac ar-lein. Byddwch yn brofiadol ac yn gymwys mewn gweithredu gweithdrefnau ansawdd mewnol, a bydd gennych sgiliau trefnu, cydlynu a gweinyddol ardderchog. ae sgiliau iaith Gymraeg ar lefel 4 yn hanfodol ar gyfer y swydd.