MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Foelgron, Mynytho,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Tachwedd, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Clerc Llywodraethwyr Ysgol Foelgron

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

YSGOLION CYNRADD

YSGOL FOEL GRON (Cynradd Oedran 3-11)

Yn eisiau: 1af o Ragfyr 2023 (neu cyn gynted â phosib wedi hynny)

CLERC LLYWODRAETHWYR

Telir cyflog ar GS2 pwyntiau 3-4 sef £929 - £947 y flwyddyn (pro rata) yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Clerc Llywodraethwyr.

ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL (GS2) CYNRADD

Paratoi ymlaenllaw cyn cyfarfod 3 awr bob cyfarfod

Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod 7.5awr bob cyfarfod

Cyfarfod 2 awr

Cyfanswm oriau fesul cyfarfod 12.5awr

12.5awr x 6 cyfarfod = 75 awr

Gweinyddiaeth - DBS,buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau

7.5 awr mewn blwyddyn

Gweinyddu =7.5 awr

Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant

Cyfanswm oriau = 84.5awr

Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol o safon uchel. Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Ms Kelly Jones (Rhif Ffôn 01758 740567 ) e-bost: Kelly.Jones@foelgron.ysgoliongwynedd.cymru

Mae ffurflenni cais ar gael i'w lawr lwytho ar dudalen Swyddi Dysgu ar wefan Cyngor Gwynedd ac i'w ddychwelyd i'r cyfeiriad isod:-.

Pennaeth Ysgol Foel Gron

Mynytho

Pwllheli

LL53 7RN

DYDDIAD CAU: 14/11/2023

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

(This is an advertisement for the post of a Governors Clerk at Ysgol Foel Gron, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn. This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cefndir addysgol cadarn.
Cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau'r cymhwyster/hyfforddiant ar gyfer Clercod Llywodraethol o fewn cyfnod o flwyddyn o ddyddiad y penodiad.

DYMUNOL

Cymhwyster cydnabyddedig neu brofiad blaenorol ym maes gweinyddiaeth.
Wedi mynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr yn y gorffennol.

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL

Profiad blaenorol o gofnodi cyfarfodydd, pwyllgorau, cymdeithasau neu glybiau.

DYMUNOL

Ymwybyddiaeth o faes Llywodraethwyr Ysgolion.
Profiad o gydweithio'n effeithiol efo gweithwyr eraill ar bob lefel.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL

Sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol.

DYMUNOL

Gwybodaeth am drefniadaeth Cyrff Llywodraethol Ysgolion
Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office a'r we

NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL

Yn gallu cyd-weithio fel aelod o dim.
Yn gallu gweithio i gyrraedd targedau penodol.
Gallu cyfathrebu'n effeithiol ac arddangos blaengaredd (gweld gwaith).

DYMUNOL

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.
Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.
Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)

Ysgrifennu - Lefel Uwch
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad

PWRPAS Y SWYDD

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

Darparu gwasanaeth Clerigol i'r Corff Llywodraethol.

Gweinyddu a chefnogi gwaith y Corff Llywodraethu yn unol â chanllawiau'r awdurdod lleol, gan weithio'n effeithiol gyda chadeirydd y llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol.

CYFRIFOLDEB AM ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, offer)

-

PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL

1. Cyd-weithio gyda'r Cadeirydd a'r Pennaeth ar gynnwys rhaglen cyfarfodydd gan ddarparu papurau cefndir ar gyfer y
cyfarfodydd hynny - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

2. Darparu ac anfon rhaglen i aelodau'r corff llywodraethu - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

3. Gwirio gyda'r Cadeirydd ar unrhyw faterion y gweithredwyd arnynt rhwng cyfarfodydd ac sydd angen eu hadrodd i'r corff
llywodraethu.

4. Mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu llawn yn ogystal â'r is-bwyllgorau statudol gan gymryd cofnodion priodol (hyd
at 6 cyfarfod yn flynyddol yn unig). Gall y Clerc hawlio tal ychwanegol i glercio cyfarfodydd ychwanegol.

- Mae'n statudol i Gorff Llywodraethu gynnal o leiaf un cyfarfod o'r Corff Llawn yn dymhorol
- Cyfarfod ffurfiol y rhieni gyda'r Llywodraethwyr pe byddai gofyn yn dilyn petitiwn
- Is-bwyllgorau statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol os yw dros 6 cyfarfod mewn blwyddyn

5. Sicrhau bod y Corff Llywodraethu yn pennu dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ymlaen llaw a bod y wybodaeth
hynny yn hysbys i'r Awdurdod Lleol.

6. Cynhyrchu ac anfon copïau drafft o'r cofnodion i'r Cadeirydd a'r Pennaeth cyn creu fersiwn derfynol i'w
ddosbarthu i bob aelod o'r Corff Llywodraethu a ALl.

7. Cofnodi presenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd a rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn
perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg presenoldeb.

8. Cadw cofnod o dymor gwasanaeth pob llywodraethwr gan gysylltu â'r Awdurdod Lleol ar achlysuron pan fo
cyfnod gwasanaeth yn dod i ben, neu pan fo ymddiswyddiadau.

9. Gohebu ar ran y Corff Llywodraethu, yn ôl yr angen.

10 Cadw trefn ar gofnodion, gohebiaeth a dogfennau eraill yng nghyswllt gwaith y corff llywodraethu.

11 Cynorthwyo'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu i baratoi Adroddiad Blynyddol i Rieni.

12 Mynychu a chadw cofnodion o Gyfarfod Llywodraethwyr a Rhieni wedi dilyn cais gan y Rhieni.

13 Cynorthwyo'r Corff Llywodraethol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer Gwobrau Ansawdd i'r Corff Llywodraethol.

14 Mynychu'r cyrsiau a drefnir ar gyfer Clercod Llywodraethol, a chwblhau'r cwrs mandadol i glercod newydd. Dosbarthu gwybodaeth am hyfforddiant i'r Corff Llywodraethol, cadw cofnod o'r llywodraethwyr fynychodd.

15 Cadw cofnod fanwl o'r llywodraethwyr sydd angen mynychu cyrsiau mandadol . Rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg mynychu cwrs mandadol.

16 Disgwylir i'r Clerc gadw cofnod a gofalu fod Dadleniad Datganiad Troseddol a Datganiad Buddiant pob
llywodraethwr yn gyfredol.

17 Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

18 Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn
Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

19 Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

20 Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod
gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

21 Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y
Swydd.

AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.)

- Angen i weithio oriau anghymdeithasol - fin nos fel rheol y cynhelir cyfarfodydd y Cyrff Llywodraethol.
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn 6 cyfarfod mewn blwyddyn
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn is-baneli statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn cyfarfod ffurfiol ar gais Rhieni gyda Llywodraethwyr

ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL (GS4) CYNRADD
Paratoi ymlaenllaw cyn cyfarfod 3 awr bob cyfarfod
Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod 7.5awr bob cyfarfod
Cyfarfod 2 awr

Cyfanswm oriau fesul cyfarfod 12.5awr
12.5awr x 6 cyfarfod = 75 awr

Gweinyddiaeth - DBS,buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau
7.5 awr mewn blwyddyn
Gweinyddu = 7.5 awr

Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant

Cyfanswm oriau = 84.5awr

NODYN
- 6 cyfarfod Corff Llywodraethol mewn blwyddyn.
- Pe byddai'r cyfarfod yn mynd dros 2 awr gall y Clerc hawlio gor-amser.
- Pe byddai'r corff angen gwasanaeth y Clerc mewn is-banel neu mwy na 6 cyfarfod gall y Clerc hawlio'r amser hwn yn ychwanegol.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi