MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe | Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 10 January, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 31 July, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,334 - £31,440
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2022 9:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtor SSIE

Tiwtor SSIE

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae gennym gyfle gwych i diwtoriaid SSIE cymwys ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.
Rydym yn chwilio am diwtoriaid SSIE cymwys, medrus iawn i gyflwyno darpaiaeth SSIE o ansawdd uchel i ddysgwyr yn Abertawe.

Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau SSIE a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a Phrosesau a Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Byddwch yn cyflwyno darpariaeth SSIE o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu ac yn defnyddio ystod o ddulliau asesu priodol yn unol ag anghenion dysgwyr a gofynion y corff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau bod dysgwyr yn cael adborth clir ac adeiladol o fewn amserlenni priodol.
JOB REQUIREMENTS
Mae cymhwyster addysgu o isafswm Lefel 3 ynghŷd â chymhwyster ymarferydd SSIE Lefel 3 neu uwch neu gyfwerth hy TESOL, CELTA, DELTA yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion a darparu darpariaeth SSIE, ac o gymryd rhan mewn gweithdrefnau ansawdd mewnol.
Byddai gwybodaeth am dechnolegau dysgu digidol, tystysgrif Lefel 5 o gyflwyno darpariaeth SSIE a Chymwysterau mewn Arweniad Addysg Oedolion ac Ansawdd Mewnol yn ddymunol.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae persbectif a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o phob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.