MANYLION
  • Lleoliad: Llanisien, Cardiff, CF14 5GF
  • Testun: Swyddog Ieuenctid
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,211 - £28,223
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mai, 2022 11:55 y.p

This job application date has now expired.

Cydlynydd Systemau Data a TG

Cydlynydd Systemau Data a TG

Urdd Gobaith Cymru
Teitl y Swydd: Cydlynydd Systemau Data a TG
Math o gontract: Parhaol a Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Graddfa 4: £25,211 (Pwynt 1) - £28,223 (Pwynt 4)
Lleoliad: Ystyriwn geisiadau o ar draws Gymru


Amdanom ni

Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.

Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.

Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.

Y Swydd

Mae Cynllun Prentisiaethau’r Urdd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â’r Adran Prentisiaethau fel Swyddog Technoleg Gwybodaeth

Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Pennaeth Prentisiaethau) neu Gary Lewis (Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau).
catrindavis@urdd.org
gary@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org

Dyddiad Cau – 04 Mai 2022
Dyddiad Cyfweld – i'w gadarnhau

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.