MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe | Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Testun: Tiwtor Oedolion
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £25.40 - £25.40
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 11 Ionawr, 2022 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Tiwtoriaid SSIE

Tiwtoriaid SSIE

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
TIWTORIAID SSIE
Cytundeb cyfnod penodol hyd at fis Gorffennaf 2022
Mae yna nifer o oriau Sylweddol Rhan Amser a Delir Fesul Awr ac oriau Cyflogedig ar gael
Ardal: Ffin Sir Gaerfyrddin / Ceredigion
Dull cyflwyno darpariaeth: Ar-lein a Wyneb yn wyneb

Byddwch yn ymwybodol y bydd sesiynnau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal mewn Ystafell Hyfforddi ar safle lladd-dy

Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid SSIE cymwysedig i ymuno â sefydliad ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywyd. Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales yn fudiad democrataidd, annibynnol a gwirfoddol, sydd wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a datblygu sgiliau a darparu dysgu o'r ansawdd gorau, gan weithio ar y cyd gyda'i bartneriaid.

Rydym yn chwilio am diwtoriaid SSIE cymwys, medrus iawn i gyflwyno SSIE i ddysgwyr wedi'u lleoli ar safle lladd-dy ar ffin Sir Gaerfyrddin / Ceredigion o Ionawr 2022. Bydd cyrsiau'n cael eu cynnal ar-lein ac wyneb yn wyneb.Byddai'r gallu i gyflenwi'n ddwyieithog yn fantais, ond nid yw'n hanfodol.

Gellir teithio i’r lleoliad dysgu o:
Llanbedr Pont Steffan
Tregaron
Castell Newydd Emlyn
Caerfyrddin
Llandovery
Llandeilo

Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu rhaglenni dysgu ym maes SSIE, yn unol ag anghenion dysgwyr a gweithdrefnau ansawdd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Byddwch yn cyflwyno dysgu SSIE o ansawdd uchel gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu ac yn defnyddio ystod o ddulliau asesu priodol yn unol ag anghenion y dysgwyr a gofynion y corff dyfarnu. Byddwch yn sicrhau bod y dysgwyr yn cael adborth clir ac adeiladol o fewn amserlenni priodol.
JOB REQUIREMENTS
Mae isafswm cymhwyster addysgu Lefel 3 a chymhwyster Ymarferwyr ESOL Lefel 3 neu gymhwyster CELTA yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion, darpariaeth SSIE, a chymryd rhan mewn gweithdrefnau ansawdd mewnol. Byddai gwybodaeth am dechnolegau dysgu digidol, cymhwyster addysgu Lefel 5, a cymwysterau mewn Arweiniad Addysg Oedolion ac Ansawdd Mewnol yn ddymunol.

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.