MANYLION
  • Lleoliad: Place of work to be discussed,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Datblygwr EBS Cynorthwyol

Grwp Llandrillo Menai
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn ddarparwr addysg bellach a sefydlwyd yn dilyn uno Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Mae'r Grŵp yn cyflogi tua 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i dros 21,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr addysg uwch ar draws siroedd Môn, Conwy, Dinbych a Gwynedd.

Nod strategol y Grŵp yw gwella dyfodol pobl; mae amrywiaeth eang y cyrsiau, ansawdd uchel y profiadau dysgu, y cyfleusterau penigamp a'r staff amryddawn a geir yn y Grŵp i gyd yn cyfrannu tuag at gyflawni'r nod hwn.

Mae'r Tîm MIS, Arholiadau ac EBS yn chwilio am ymgeisydd i ymuno â'n tîm datblygu fel Datblygwr EBS Cynorthwyol. Mae'r tîm yn cynnwys dros 35 aelod o staff sy'n cywain gwybodaeth ac yn cefnogi myfyrwyr a staff (drwy'r System EBS) drwy'r broses o wneud cais i'r Grŵp ac yna cofrestru a chyda'u rhyngweithio â Chyrff Dyfarnu ar gyfer asesiadau.

Mae'r Grŵp yn defnyddio meddalwedd Tribal EBS fel ei gronfa data myfyrwyr. Mae Tribal EBS wedi'i gynllunio er mwyn darparu darlun unigol a chydlynol o'r data myfyrwyr a gedwir gan y Grŵp gan symleiddio gweithrediadau a gwella ymgysylltiad myfyrwyr.

Byddem yn croesawu ymgeiswyr ar gyfer y cyfle cyffrous hwn i ymuno â'r tîm hynod lwyddiannus o staff sy'n cefnogi'r gwasanaethau TG. Bydd y swydd yn cynnwys cyfuniad o waith o bell a gwaith ar y campws.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/056/23

Cyflog
£29,060.92 - £31,006.69 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Lleoliad gwaith i'w drafod

Hawl gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd barhaus lawn o wasanaeth, ynghyd â Gwyliau Banc a diwrnodau effeithlonrwydd

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
23 Hyd 2023
12:00 YH(Ganol dydd)