MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Technegydd Astudiaethau Tir Achlysurol

Coleg Penybont
Technegydd Astudiaethau Tir Achlysurol

Disgrifiad o'r swydd Technegydd Astudiaethau Tir Achlysurol
(Cefn Gwlad / Amaethyddiaeth)
Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Graddfa Gyflog 3: £11.27 - £12.06 yr awr

Pwrpas y swydd: Cyflawni dyletswyddau Cefn Gwlad ac Amaethyddiaeth gyffredinol a chynnal a chadw/paratoi offer ymarferol.

Byddwch yn cynorthwyo gyda rheolaeth cyfleusterau Cefn Gwlad, Amaethyddiaeth a thir y coleg gan gynnwys ffensio, rheoli glaswelltir a ffiniau, cynnal a chadw gweithdai, a thrwsio/cynnal a chadw peiriannau ac offer. Byddwch hefyd yn cynorthwyo darlithwyr yn y gweithdy yn ystod sesiynau ymarferol lle bo angen.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gwybodaeth a phrofiad da o reoli cefn gwlad ac amaethyddiaeth yn gyffredinol a chymhwyster Lefel 3 neu uwch mewn Cadwraeth Amgylcheddol, Amaethyddiaeth neu bwnc cysylltiedig. Byddwch hefyd yn meddu ar brofiad o sgiliau cadwraeth ymarferol megis ffensio, plygu perthi a rheoli ffiniau.

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.