MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun: Cymorth
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Arweinydd Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr CC/2472

Coleg Cambria
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Arweinydd Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr

Lleoliad: Iâl

Math o Gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol (mis Rhagfyr 2024)

Pwyntiau Cyflog: £27,023 - £29,436 yn seiliedig ar asesiad cyflog.

Trosolwg o’r Swydd

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Gwasanaethau Myfyrwyr deinamig i arwain ein tîm gwasanaethau myfyrwyr a sicrhau bod ein myfyrwyr cymwys yn cael cymorth o'r safon uchaf. Fel arweinydd y tîm, byddwch yn rheoli Tim 4 Ymgynghorwyr Gwsanaethau Myfyrwyr, yn ymdrin ag atgyfeiriadau, ac yn cynnal cyfrinachedd yn yr holl waith papur.

Bydd eich swydd yn ganolog i feithrin perthnasoedd. Mae hyn yn golygu ymgysylltu'n rheolaidd â myfyrwyr i wella eu profiad coleg a gweithio'n agos gyda rhieni a gofalwyr i fynd i'r afael â phryderon presenoldeb. Ar ben hynny, byddwch yn cydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac yn ymdrin â materion lles a diogelu sensitif, gan sicrhau amgylchedd diogel a chefnogol i'n myfyrwyr.

Prif gyfrifoldebau:

Y tu hwnt i oruchwylio'r tîm, byddwch yn cynnig cymorth ar draws safleoedd y coleg, yn cynrychioli'r coleg mewn cyfarfodydd allanol, ac yn hyrwyddo digwyddiadau gwasanaethau myfyrwyr yn weithredol. Mae logisteg trafnidiaeth, hyfforddiant tîm, a chydgysylltu ag asiantaethau allanol hefyd yn rhan o’ch swydd.

Gofynion Hanfodol
  • Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
  • Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi'u haddysgu i lefel TGAU mewn Saesneg a Mathemateg
  • Mae'n hanfodol bod gennych NVQ Lefel 4 neu gyfwerth mewn Cyngor ac Arweiniad
  • Mae NVQ Lefel 3 mewn Diogelu yn ddymunol
  • Sawl blwyddyn o brofiad mewn swydd gwaith ieuenctid neu gynorthwyo’r gymuned - Addysg Bellach neu Ofal Cymdeithasol fyddai orau
  • Gwybodaeth dda am hawliau myfyrwyr sydd ar gael drwy’r Llywodraeth ac asiantaethau elusennol
  • Gallu defnyddio TG a Google Drive

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig