MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Testun: Troseddeg
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Darlithydd Troseddeg a delir yn ôl yr awr
Disgrifiad o'r swydd Darlithydd Troseddeg a delir yn ôl yr awr
Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy’n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe’u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £22,904 - £27,030 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Cymwysedig: £29,162 - £45,077 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Byddwch yn cynllunio, yn datblygu, yn darparu ac yn gwerthuso cynnwys cwricwlwm y rhaglenni dysgu gan ddarparu hyfforddiant rhagorol ar draws ystod o raglenni llawn a rhan-amser. Bydd gennych y gallu i addysgu ystod eang o bynciau Troseddeg.
Bydd gennych radd mewn pwnc cysylltiedig, ynghyd â thystysgrif TAR, neu byddwch yn barod i gael y cymhwyster hwn. Bydd hefyd gennych wybodaeth am gyflwyno cwricwlwm a phrosesau ansawdd.
Gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth myfyrwyr eang ac amrywiol byddwch yn frwdfrydig dros gymell pob dysgwr.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.