MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Ionawr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Peirianneg

Coleg Penybont
Hyfforddwr Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Peirianneg

Disgrifiad o'r swydd Hyfforddwr Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Peirianneg
Graddfa Gyflog 5-PO2: £27,492 - £44,714 y flwyddyn
(Yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad)

Gyda phrofiad helaeth o weithio yn y Diwydiant Peirianneg, byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, asesu a gwerthuso'r cwrs peirianneg fecanyddol fyr a'r ddarpariaeth dysgu seiliedig ar waith yn effeithiol ac yn effeithlon.

Gyda phrentisiaeth gydnabyddedig bydd gennych gymwysterau proffesiynol cyfredol perthnasol mewn disgyblaeth peirianneg.

Bydd gennych brofiad o weithio gyda chyflogwyr i helpu datblygu a darparu rhaglenni hyfforddiant. Bydd gennych y gallu i weithio’n hyblyg a bod yn gyfathrebwr rhagorol.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cliciwch ar y ddolen isod:

Pecyn Gwybodaeth y Swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a chofrestriad fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (https://www.myewc.wales/ewc-jol/app/index_live.php?lang=cy#/welcome).

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.