MANYLION
- Lleoliad: Within Ceredigion,
- Testun: Arweinyddiaeth
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Ynglŷn â'r rôl
Dim ond gweithwyr cyfredol all wneud cais am y swydd hon.
(Byddem yn barod i ystyried oriau rhan amser, 2-3 diwrnod yr wythnos).
Mae'r swydd hon yn bodoli o ganlyniad i ailstrwythuro a chyflwyno model Gydol Oed, Porth Gofal.
Rydym bellach yn darparu'r gwasanaethau cwnsela yn fewnol ac fel rhan o'r broses honno gobeithiwn benodi uwch-gwnselydd ysgol cymwys, er mwyn darparu goruchwyliaeth a rheolaeth gyffredinol ac arweinyddiaeth gydgysylltiol ar gyfer y gwasanaeth cwnsela ysgolion. Bydd hyn yn golygu gwerthuso'r gwasanaeth, casglu a dadansoddi data i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill a chyfrannu at Gynllun Cyflawni'r Gwasanaeth Cynhwysiant, gan gynnwys bod yn bresennol yn rhai o grwpiau strategol yr awdurdod lleol a chyfrannu at y grwpiau hynny. Yn ychwanegol at hyn, bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaeth cwnsela i fyfyrwyr ysgol ar sail gwaith achos unigol drwy gyfrwng system apwyntiadau cyfrinachol, gwasanaeth galw heibio a chwnsela ar-lein yn ôl y gofyn.
Croesawn geisiadau gan y sawl sy'n meddu ar Ddiploma Proffesiynol mewn Cwnsela ac sydd wedi eu hachredu/eu cofrestru gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain neu Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi y Deyrnas Unedig neu gymhwyster cyfatebol, i ddechrau ar y gwaith yn syth yn amodol ar gyfweliad a gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Mae gennym Seicolegydd Addysg a Thîm Cwnsela cyfeillgar, bywiog ac arloesol yn ein hysgolion, pobl sydd yn ymrwymedig i gynorthwyo'r Awdurdod Addysg Lleol i fod yn fwy cynhwysol ac i godi safonau addysgol. Byddwch yn unigolyn sy'n ymrwymedig i addysg gynhwysol ac felly'n deall yr heriau sy'n wynebu addysg wrth i anghenion iechyd a lles meddyliol gynyddu a byddwch yn angerddol yn eich cefnogaeth i ddisgwyliadau a chanlyniadau o safon uchel i bob disgybl.
Wrth ymuno â ni byddwch chi'n elwa o'r canlynol:
Fel Awdurdod Lleol, rydym yn ymrwymedig i wella diogelwch a llesiant plant, unigolion a theuluoedd ac er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae angen i ni fod yn hyderus bod datblygiad ein gweithlu, ein hasesiadau a'n cynlluniau gofal wedi eu llywio gan dystiolaeth o arfer orau ac arfer arloesol. Bydd Ceredigion yn cyflenwi gwasanaethau cynaliadwy, o ansawdd uchel gan ddefnyddio dulliau cynhyrchu a gweithredu ar y cyd, gyda phwyslais clir ar yr hyn sy'n bwysig o ran diogelwch a lles pobl. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phlant, unigolion a theuluoedd a chyda'n hasiantaethau partner ar draws pob sector er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Bydd y Fframwaith Ymarfer Arwyddion Diogelwch yn sail i bob agwedd o gyflwyno'r gwasanaeth ar draws y sefydliad corfforaethol. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o gysondeb a mwy o dryloywder yn yr hyn y gall unigolion a theuluoedd ei ddisgwyl gennym ar draws y continwwm o angen. Mae'r Fframwaith Arwyddion Diogelwch yn sicrhau bod pwyslais ar adeiladu cryfderau unigol, teuluol a chymunedol ac y ceir asesiad cadarn er mwyn pennu nodau clir a fydd yn galluogi'r sefydliad i gyflwyno'r cymorth cywir ar yr adeg gywir i bobl Ceredigion.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwchâni
Amwybodaethpellachathrafodaethanffurfiolynglŷnâ'rswyddhoncysylltwch â Samantha Connollyar Samantha.connolly@ceredigion.gov.uk neu 07977636732.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:

- Cyfnod sefydlu priodol
- Cymorth TG a chymorth gweinyddol penodol o ansawdd da
- Trefniadau gweithio hyblyg sy'n rhoi ystyriaeth i fywyd teuluol
- Goruchwyliaeth fisol yn unol â chod ymarfer Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain
- Mynychu cyfarfodydd tîm a goruchwyliaeth gyfoed
- Mynediad at gynllun pensiwn budd-dâl ymddeol y cyngor
- Cyfleoedd i dderbyn hyfforddiant pellach ac i ddatblygu
Fel Awdurdod Lleol, rydym yn ymrwymedig i wella diogelwch a llesiant plant, unigolion a theuluoedd ac er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae angen i ni fod yn hyderus bod datblygiad ein gweithlu, ein hasesiadau a'n cynlluniau gofal wedi eu llywio gan dystiolaeth o arfer orau ac arfer arloesol. Bydd Ceredigion yn cyflenwi gwasanaethau cynaliadwy, o ansawdd uchel gan ddefnyddio dulliau cynhyrchu a gweithredu ar y cyd, gyda phwyslais clir ar yr hyn sy'n bwysig o ran diogelwch a lles pobl. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phlant, unigolion a theuluoedd a chyda'n hasiantaethau partner ar draws pob sector er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. Bydd y Fframwaith Ymarfer Arwyddion Diogelwch yn sail i bob agwedd o gyflwyno'r gwasanaeth ar draws y sefydliad corfforaethol. Bydd hyn yn sicrhau bod mwy o gysondeb a mwy o dryloywder yn yr hyn y gall unigolion a theuluoedd ei ddisgwyl gennym ar draws y continwwm o angen. Mae'r Fframwaith Arwyddion Diogelwch yn sicrhau bod pwyslais ar adeiladu cryfderau unigol, teuluol a chymunedol ac y ceir asesiad cadarn er mwyn pennu nodau clir a fydd yn galluogi'r sefydliad i gyflwyno'r cymorth cywir ar yr adeg gywir i bobl Ceredigion.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwchâni
Amwybodaethpellachathrafodaethanffurfiolynglŷnâ'rswyddhoncysylltwch â Samantha Connollyar Samantha.connolly@ceredigion.gov.uk neu 07977636732.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant