MANYLION
- Lleoliad: Litchard Primary,
- Testun: Pennaeth Adran
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Hydref, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Pennaeth – Ysgol Gynradd Llidiart
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Pennaeth - Ysgol Gynradd Llidiart
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Grŵp Ysgol 3 ac ISR L18 – L24
Ar gyfer mis Ionawr 2024
Mae Ysgol Gynradd Llidiart wedi'i lleoli ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr ac mae'n gwasanaethu cymunedau'r Llidiart, y Felin Wyllt, a Phendre. Mae'n ysgol fawr bwrpasol gyda phwll nofio wedi'i gosod mewn tiroedd helaeth. Rydym yn croesawu plant rhwng 3 ac 11 oed ac yn ymfalchïo ein bod yn gallu cynnig amgylchedd dysgu o ansawdd iddynt lle byddant yn cael eu haddysgu a'u gofalu gan weithwyr proffesiynol profiadol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae gan yr ysgol hefyd ddosbarth LRB ac mae'n derbyn atgyfeiriadau gan yr awdurdod lleol. Yn Llidiart, rydym yn falch o'r safonau uchel rydym yn eu cyrraedd. Mae'r rhain wedi'u cydnabod gan adroddiadau arolygu Estyn a derbyn nifer o wobrau.
Rydym yn chwilio am Bennaeth â gweledigaeth glir i barhau'r ymgyrch i sicrhau safonau uchel yn yr ysgol. Bydd yn ofynnol i chi ddarparu arweinyddiaeth i'r ysgol i gynnal ei llwyddiant ac i sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad. Byddwch yn hyrwyddo sylfaen ddiogel ar gyfer cyrraedd safonau uchel ym mhob maes o waith yr ysgol. Byddwch yn cynnal ac yn gwella'r diwylliant sy'n hyrwyddo rhagoriaeth, cydraddoldeb a disgwyliadau uchel pob disgybl yn Llidiart. Bydd ein Pennaeth yn gweithio gyda’r gymuned leol ehangach i gynnal partneriaethau a chysylltiadau effeithiol.
A chithau'n Bennaeth neu Ddirprwy Bennaeth profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg, a phrofiad o arwain newid. Byddwch yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am y penodiad hwn feddu ar y CPCP.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 6 Hydref 2023
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Yr wythnos sy'n dechrau 9 Hydref 2023
Dyddiad y cyfweliad: Yr wythnos sy'n dechrau 23 Hydref 2023
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person