MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Gofal Anifeiliaid Achlysurol

Coleg Penybont
Hyfforddwr Gofal Anifeiliaid Achlysurol

Disgrifiad o'r swydd Hyfforddwr Gofal Anifeiliaid Achlysurol
£23.50 yr awr

Mae cyfle gwych wedi codi i diwtor brwdfrydig dysgu'r canlynol:

Lefel 2 City & Guilds:
  • Cerdded Cwn
  • Gofalu am Anifeiliaid Anwes
Unedau Agored Cymru
  • Iechyd a Lles Cwn
  • Iechyd anifeiliaid bach
  • Gofal Anifeiliaid Egsotig
  • Cymorth cyntaf cwn
  • Sgiliau Hyfforddi Cwn Lefel 2
  • Sgiliau Hyfforddi Cwn Lefel 3
  • Edrych ar ôl cwn a chwn bach
  • Dealltwriaeth o ymddygiad cwn
Gofynnwn i’r tiwtor feddu ar HND mewn Gofal Anifeiliaid a gwybodaeth am ofal cŵn, gyda ffocws ar Gymorth Cyntaf Cŵn.

Gall dyletswyddau gynnwys:
  • Cynllunio asesiadau
  • Dulliau asesu
  • Adborth
  • Cofnodi tystiolaeth
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a chofrestriad fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd sydd ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.