MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogi Busnes x 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cymhorthydd Cefnogi Busnes x 2

Tîm: Gorwelion Newydd (Uned Atgyfeirio Disgyblion)

Yn atebol i'r: Uwch Dîm Arweinyddiaeth

G05 £22,369 to £23,194 y flwyddyn/ pro rata

1 x 37 awr yr wythnos

1 x 22 awr yr wythnos

Yn ystod y tymor yn unig - 39 wythnos y flwyddyn

Rydym ni'n bortffolio Uned Atgyfeirio Disgyblion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, sy'n rhoi addysg i bobl ifanc o oed ysgol uwchradd sydd ddim yn gallu mynychu ysgol brif ffrwd. Rydym yn gweithredu o dri safle, sef Stiwdio Pen-y-Cae, Haulfan a Stiwdio Hafod, sy'n arbenigo ar gefnogi disgyblion unigol â'u hanghenion ymddygiad ac iechyd meddwl.

Rydym yn angerddol ynglŷn â rhoi cyfleoedd gwych i blant a phobl ifanc fagu hunanhyder a hunan-barch er mwyn iddynt allu ail-ymgysylltu'n llwyddiannus â dysgu. Mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer ein holl blant a phobl ifanc, beth bynnag fo'r amgylchiadau heriol y maent yn eu hwynebu.

Mae gennym ni weledigaeth glir ar gyfer y gwasanaeth i ddiwallu anghenion ein budd-ddeiliaid allweddol a chymunedau. Mae ein henw, Gorwelion Newydd, ein logo a'n gweledigaeth yn darparu llwyfan cadarn i'n galluogi ni i gyrraedd ein nodau a'n huchelgeisiau. Rydym ni'n falch iawn o fod yn rhan o gymuned Wrecsam.

Mae ein tîm o staff yn egnïol, yn arloesol ac yn canolbwyntio ar atebion. Rydym eisiau penodi Cynorthwy-ydd Cefnogi Busnes i weithio yn safle Stiwdio Pen-y-Cae (37 awr yr wythnos) a Chynorthwyydd Cefnogi Busnes i weithio ar safle Stiwdio Haulfan (22 awr y wythnos).

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael eto ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion; cwblhewch y ffurflen gais PDF isod yn electronig. Os bydd angen i chi lenwi'r ffurflen â llaw, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd i'r ysgol.

Ceisiadau wedi'u Cwblhau i'w dychwelyd yn syth at y Pennaeth i'r cyfeiriad e-bost isod.

mailbox@prs.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Cyfweliadau: I'w gyhoeddi