MANYLION
- Lleoliad: Heronsbridge,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Gweinyddol - Ysgol Heronsbridge
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cynorthwyydd Gweinyddol - Ysgol Heronsbridge
Disgrifiad swydd
37 awr yr wythnos – Tymor yr ysgol
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Heronsbridge yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Gweinyddol brwdfrydig i ymuno â'n swyddfa brysur.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos ei fod yn gallu gweithio'n dda mewn tîm ac ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol a chlercol a fydd yn cynnwys cymryd cofnodion, teipio adroddiadau cyfrinachol amrywiol a dogfennau eraill. Rhaid i chi allu dangos safon uchel a chywir o sgiliau teipio a phrosesu geiriau. Yn ogystal â meddu ar y sgiliau hyn, rhaid i chi allu croesawu'r holl westeion / ymwelwyr â'r ysgol mewn modd cadarnhaol a chyfeillgar sy'n rhoi delwedd dda o'r ysgol.
Byddai rhywfaint o wybodaeth am y pecyn SIMS yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol; fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn cyfrifiadura, ac yn meddu ar sgiliau prosesu geiriau a rhifedd gwych. Mae'r gallu i weithio o fewn terfynau amser tynn yn un o'r gofynion hanfodol ar gyfer y swydd.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Manteision gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiad Cau: 12 Hydref 2023
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: Yr wythnos sy'n dechrau 23 Hydref 2023
Dyddiad y Cyfweliad: Yr wythnos yn dechrau 06 Tachwedd 2023
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person