MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Mentor Llwyddiant Dysgwyr, Tymor yn unig (36 wythnos y flwyddyn), Cytundeb hyd at Gorffennaf 2024 (3 swydd ar gael)

Grwp Llandrillo Menai
Cyflwyniad i'r swydd:
  • Ydych chi yn hoffi gweld pobl ifanc yn llwyddo?
  • Oes gennych chi y sgiliau i gael y gorau allan o bobl ifanc?
  • Ydych chi'n berson agored; hwyliog a phenderfynol?
  • Ydych chi yn hoffi gweithio a helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?

............Os ydych yn ateb yr uchod yn gadarnhaol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau a dyfodol pobl ifanc, yna mae'r swydd hon yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Byddwch yn gweithio gyda thîm o staff ymroddedig eraill i sicrhau cyfleon a chefnogaeth deilwng i ddysgwyr y Grŵp.

PWRPAS Y SWYDD

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn peilota swyddogaeth newydd sef Mentor Llwyddiant Dysgwyr(MLlD). Bydd deiliaid y swyddi hyn yn cefnogi ein dysgwyr llawn amser i uchafu eu presenoldeb yn y coleg, canolbwyntio a chyflawni eu nodau addysgiadol.

Bydd y MLlD yn cael eu rheoli yn uniongyrchol gan Reolwyr Maes Rhaglen ac fe fyddant yn cefnogi tiwtoriaid personol i ddelio gyda'r materion dysgwyr canlynol:
  • Diffyg Presenoldeb
  • Ymddygiad annerbyniol
  • Methiant i gwblhau gwaith colegol
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/029/23

Cyflog
£21,514.34 - £22,785.75 pro rata y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau
  • Pwllheli

Hawl gwyliau
i'w gynnwys yn y cyflog a delir

Patrwm gweithio
25 awr yr wythnos, 36 wythnos y flwyddyn

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
04 Hyd 2023
12:00 YH(Ganol dydd)