MANYLION
  • Lleoliad: Blaenau Childrens Centre, Ammanford,
  • Testun: Datblygiad y Plentyn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant

Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad

Nifer amrywiol o oriau ar gael.

£12.52 - £14.22 yr awr.

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc?

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth preswyl plant Cyngor Sir Caerfyrddin. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn ein darpariaeth breswyl ac yn cydweithio â'r gwasanaethau i oedolion i sicrhau proses bontio gadarnhaol i oedolion ifanc ag anghenion ac anableddau cymhleth.

Rydym yn chwilio am staff sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio yn y rôl werth chweil ond heriol hon. Byddwch yn dod yn rhan o dîm sy'n darparu amgylchedd ysgogol a meithringar i alluogi ein plant a'n pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

Nid yw'n hanfodol bod gennych brofiad blaenorol o weithio mewn cartrefi preswyl gan ein bod yn cydnabod bod unigolion yn dod ag ystod eang o brofiadau a sgiliau trosglwyddadwy.

Rydym yn cynnig pecyn ymsefydlu a hyfforddi ardderchog, gan gynnwys eich cefnogi i ennill cymhwyster lefel 3 mewn gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc, os nad oes gennych hyn eisoes.

Bydd gofyn i chi weithio sifftiau ar sail rota. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r hwyr, ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Victoria Griffiths ar 01269 850789 / vcgriffiths@sirgar.gov.uk

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch 'eitemau a lawrlwythwyd' i weld copi o'r Proffil Swydd.

Bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif cyn clicio ar y botwm 'Gwneud Cais' am y swydd hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: