MANYLION
  • Lleoliad: Llangynwyd Primary,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

School Crossing Patrol - Llangynwyd Primary

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
School Crossing Patrol - Llangynwyd Primary
Disgrifiad swydd
7.5 awr yr wythnos

Tymor Amser

Ar hyn o bryd, mae gan Wasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dîm o ddynion a menywod ymroddedig ag ysbryd cymunedol sy’n ymgymryd â'r rôl bwysig o sicrhau diogelwch plant sydd ar eu ffordd i’r ysgol ac oddi yno.

Rydym yn awyddus i glywed gan aelodau’r gymuned sy’n gallu dangos ymwybyddiaeth o draffig, ymdeimlad o gyfrifoldeb ac yn awyddus i ddangos ymroddiad wrth wneud swydd bwysig iawn i wneud ffyrdd Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy diogel i gerddwyr.

Mae'r swydd yn cynnwys gweithio am adegau penodol cyn ac ar ôl  amseroedd dechrau a gorffen ysgolion.

Mae'n bwysig eich bod ar gael i weithio ar yr holl ddyddiau pan fydd yr ysgol ar agor.

Darperir gwisg i'ch diogelu rhag y tywydd.

A chithau'n Hebryngwr Croesfannau Ysgol, byddwch yn stopio traffig i gynorthwyo cerddwyr i groesi’r ffordd, chwilio am beryglon posibl ger yr ardal groesi, a helpu i addysgu plant ar faterion diogelwch ffyrdd.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddog Diogelwch Ffyrdd ar 01656 642529

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Dyddiad Cau: 11 Hydref 2023

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person