MANYLION
  • Lleoliad: Tremains Primary School,
  • Testun: Cymorth
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd/Grantiau - Ysgol Gynradd Tremains

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd/Grantiau - Ysgol Gynradd Tremains
Disgrifiad swydd
35 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

A ydych yn unigolyn hyderus, rhadlon ac egnïol sy'n angerddol am gael effaith gadarnhaol ar deuluoedd a chymunedau?  Os felly, mae gan Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Tremains gyfle cyffrous i chi fel Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a Grantiau.

Mae Ysgol Gynradd Tremains yn ymrwymedig i gynorthwyo teuluoedd a grymuso cymunedau.  Credwn fod ymgysylltu cryf â theuluoedd a mynediad at grantiau yn gydrannau hanfodol wrth greu newid parhaol a gwella bywydau unigolion a theuluoedd.  Ein cenhadaeth yw meithrin cydweithredu, darparu adnoddau a hyrwyddo llesiant teuluoedd drwy raglenni a mentrau arloesol.

A chithau'n Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a Grantiau byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau cyfleoedd cyllido i gynorthwyo ein mentrau a gwella ymgysylltu â theuluoedd yn yr ysgol.  Byddwch yn gweithio'n agos gyda sefydliadau cymunedol, teuluoedd a sefydliadau sy'n rhoi grantiau i hyrwyddo ymgysylltu, nodi ffynonellau cyllid a datblygu cynigion grant llwyddiannus. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

 
  • Meithrin ac yn cynnal perthnasoedd cryf â theuluoedd, aelodau o'r gymuned a sefydliadau partner;
  • Meddu ar brofiad o arwain/hwyluso/monitro a gwerthuso mentrau i rieni a theuluoedd mewn lleoliad ysgol/cymuned;
  • Gweithredu fel cyswllt rhwng teuluoedd a'r ysgol gan sicrhau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol;
  • Cynnal gweithgareddau allgymorth i nodi cyfleoedd grant posibl a sefydlu cysylltiadau â sefydliadau sy'n rhoi grantiau;
  • Ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno cynigion grant cymhellol i sicrhau cyllid y prosiectau;
  • Rheoli a chynnal cofnodion grantiau cywir gan gynnwys adroddiadau cynnydd, cyllideb a'r dogfennau gofynnol;
  • Meddu ar NVQ Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymhwyster cyfwerth;
  • Bod yn frwdfrydig am siarad â theuluoedd ac ymgysylltu â hwy a bod yn hyblyg yn eu dull o ran gofynion amrywiol y rôl hon;
  • Bod yn hyblyg a gallu gweithio ar eich menter eich hun;
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd gwych;
  • Yn hyderus ac yn rhadlon.

Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol sydd â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno, rydym yn croesawu eich cais.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Dyddiad cau: 11 Hydref 2023

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person