MANYLION
  • Testun: Athro
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

ATHRO/ATHRAWES, YSGOL GYNRADD PARC CYFARTHFA

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
ATHRO/ATHRAWES (CYFNOD MAMOLAETH)
YSGOL GYNRADD PARC CYFARTHFA

NOR - 420

Athro dosbarth Blwyddyn 5, llawn amser, MPS
Dros dro yn cyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth.
I ddechrau: Dydd Llun, 20 Tachwedd 2023

Mae Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa yn ysgol fywiog a hapus. Rydym am apwyntio athro Blwyddyn 5 i gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth.

Rydym am gyflogi athro brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm gweithgar. Byddai'r swydd yn addas ar gyfer athro profiadol neu sydd newydd gymhwyso all arddangos safon uchel o ddysgu a meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob plentyn.

Rydym yn edrych am rywun all:
• Arddangos profiad o Gyfnod Allweddol 2.
• Ymroddedig i godi cyrharddiad ac yn gefnogol i lesiant pob plentyn.
• Ysbrydoli a herio gallu'r holl ysgol a'r gymuned.
• Aelod brwdfrydig, egnïol a hunan-ysgogol o'r tîm.

Gallwn ni gynnig:
• Plant hapus a gofalgar sydd yn awyddus i ddysgu.
• Cymorth a brwdfrydedd holl gymuned yr ysgol.
• Amgylchedd dysgu sydd wedi'i gynnal yn dda ac sydd yn llawn adnoddau.
• Swydd all gynnig cyfleoedd gwych ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a chyfle i fod yn ddyfeisgar.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener, 6 Hydref 2023
Llunio'r rhestr fer: Yr wythnos yn dechrau 9 Hydref
Cyfweliadau: I'w cadarnhau
Bydd ymgeiswyr a fydd yn cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i ddarparu gwers, 30 munud o hyd a fydd yn cael ei harsylwi yn ystod sesiwn y bore, cyn y cyfweliad.

Mae'r swydd hon yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na Dydd Gwener, 6 Hydref 2023 i Adran Weinyddol yr Adran AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad y Gymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.
Os byddwch yn llwyddiannus ac yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk er mwyn dweud wrthym os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson heb awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod neu wedi'ch cyflogaeth oni bai y bydd disgwyl i chi wneud hynny dan amodau eich cyflogaeth, pan fydd yn ofynnol, yn gyfreithiol i wneud hynny neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall torri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn rhoi gwerth ar amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis sydd yn ymroddedig i hybu ac integreiddio cydraddoldeb cyfle ymhob agwedd o'n gwaith. Croesawn geisiadau gan bawb ac anogwn ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymrwymedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn ystod y broses recriwtio a dewis a hynny ar sail oed, anabledd, rhywedd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd a beichiogrwydd a mamolaeth.