MANYLION
- Lleoliad: Place of work to be discussed,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
A allech chi ysbrydoli llwyddiant a thwf yn un o golegau mwyaf y DU?
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn chwilio am weithiwr proffesiynol talentog, brwdfrydig a strategol i ddatblygu a thyfu gweithrediadau masnachol sylweddol y Grŵp - Busnes@.
Rydym yn chwilio am arweinydd masnachol rhagorol i lywio a datblygu adrannau gweithredu masnachol y Grŵp gan gynnwys ein darpariaeth dysgu seiliedig ar waith ac ymgysylltu â chyflogwyr. Mae hyn yn cyfrif am tua 30% o ddarpariaeth y Grŵp ac yn darparu "siop un stop" i gyflogwyr.
Mae llawer o'r datblygiadau a'r cyfleoedd y mae'r Grŵp yn rhan ohonynt o bwysigrwydd mawr i ogledd Cymru, felly mae hon yn swydd allweddol yn nhîm Gweithredol y Grŵp ar adeg gyffrous i'r sefydliad.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gyfoeth o brofiad mewn swydd uwch debyg a chefndir ym maes datblygu busnes. Bydd hefyd wedi profi ei hun fel arweinydd ac yn meddu ar sgiliau rhwydweithio a sgiliau trafod a negodi cryf. Bydd yn feddyliwr strategol sydd wedi arfer datblygu marchnadoedd a chyfleoedd newydd, a bydd hefyd wedi arfer â newidiadau trawsnewidiol a datblygu modelau busnes newydd. Byddai profiad a dealltwriaeth gadarn o'r maes addysg a sgiliau yng Nghymru o fantais, ond nid yn hanfodol.
DS: Mae manylion hefyd ar gael yn Saesneg yn y pecyn cais.
Safleoedd lluosog
Mae gan y Grŵp 13 safle unigryw ac mae'n buddsoddi'n gyson yn ei ystâd er mwyn gallu darparu'r cyfleusterau dysgu gorau posibl. Y datblygiadau diweddaraf yw'r Ganolfan Brifysgol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, y Ganolfan Adeiladu a Pheirianneg ar y Marian Mawr yn Nolgellau, Canolfan Beirianneg, Canolfan CIST a Chanolfan Chwaraeon newydd sbon yn Llangefni a champws cwbl newydd i Goleg Menai ym Mharc Menai, Bangor. Yn ogystal, ym mis Tachwedd bydd y Grŵp yn agor Canolfan Beirianneg newydd gwerth £13 miliwn ar gampws y Rhyl.
Yn 2020, cymeradwyodd y Bwrdd strategaeth i Busnes@ weithredu o ddwy ganolfan bwrpasol ar ddau barc busnes yng ngogledd Cymru, sef Canolfan Hyfforddi Busnes@ yn Llwyn Brain, Parc Menai, Bangor a agorodd yn 2021 a chanolfan newydd ar Barc Busnes Llanelwy a fydd yn agor ym mis Ionawr 2024.
Ar ben hyn mae'r Grŵp yn rhedeg is-gwmni hyfforddi sef Hyfforddiant Gogledd Cymru Cyf. (COPA) sy'n gweithredu o'i safle ei hun yn Llandudno ond yn gweithio ledled Cymru a Lloegr.
Rôl allweddol
Mae hon yn rôl hollbwysig i'r Grŵp a bydd deiliad y swydd yn ganolog i'w lwyddiant parhaus ac yn y dyfodol, yn enwedig wrth gyflawni ein thema strategol o "ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth i ysgogi'r economi"
Tîm arweiniol ysgogol ac ymroddedig
Mae tîm arweiniol y Grŵp yn frwdfrydig, angerddol a chefnogol ac yn cael ei ategu gan staff a myfyrwyr gwych.
I wneud cais am y cyfle gwych hwn ewch i wefanhttps://www.protocol.co.uk i lawrlwytho y pecyn cais. Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam eich bod yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon a'i anfon at.
vwilson@protocol.co.uk
I gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am y rôl cysylltwch â:
Vicky Wilson - 0115 911 1204
Manylion Swydd
Cyflog
£110k - £122k y flwyddyn
Lleoliad Gwaith
Hawl gwyliau
Wedi ei gynnwys yn y pecyn cais
Patrwm gweithio
Wedi ei gynnwys yn y pecyn cais
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Gynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
12 Hyd 2023
12:00 YH(Ganol dydd)

I wneud cais am y cyfle gwych hwn ewch i wefan
I gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am y rôl cysylltwch â:
Vicky Wilson - 0115 911 1204
Manylion Swydd
Cyflog
£110k - £122k y flwyddyn
Lleoliad Gwaith
- Lleoliad gwaith i'w drafod