MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria - Deeside,
- Testun: Addysg Bellach
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Hydref, 2023 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Proffil Swydd
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Coleg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad ‘Rhagorol’ yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Aur Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a’r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy’n ehangu ac yn gwella’n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio’ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i‘n campfeydd, ein salonau a’n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi’u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu’n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi’r dechrau gorau i’n myfyrwyr i’w gyrfaoedd ac yn helpu’r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu’r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd : Arbenigwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd
Lleoliad : Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract : Parhaol - Llawn Amser
Cyflog: £34,236 - £38,139
Mae Coleg Cambria yn chwilio am Arbenigwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd i ymuno â’n tîm Ystadau a Chyfleusterau. Byddwch yn atebol i'r Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd. Byddwch yn gweithio i sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd ar waith ar draws yr holl safleoedd gan sicrhau bod yr hyn mae'r coleg yn ei wneud yn cyflawni cyfrifoldebau cytundebol/cyfreithiol. Byddwch yn cynorthwyo gyda datblygiad trefniadau a pholisïau iechyd, diogelwch a chynaliadwyedd fel eu bod yn mynd y tu hwnt i safonau cyfreithiol a chyflwyno arfer gorau cydnabyddedig.
Byddwch yn sefydlu a chynnal systemau monitro a chofnodi manwl gywir gan gynhyrchu adroddiadau yn ôl yr angen. Yn ogystal â hynny, byddwch yn cynnal archwiliadau Iechyd a Diogelwch, ymchwiliadau i ddamweiniau, asesiadau risg, fetio yn y gweithle ac ymchwiliadau eraill yn ôl yr angen, gan gynhyrchu adroddiadau a chynlluniau gweithredu.
Byddwch yn darparu cymorth a chyngor iechyd a diogelwch i staff y coleg, rheolwr y coleg a phenaethiaid adrannau a rhanddeiliaid allanol yn ôl yr angen.
Gofynion Hanfodol
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda’r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig

- Mae’n rhaid bod gennych radd berthnasol neu Ddiploma NEBOSH mewn iechyd a diogelwch (Lefel 6) neu gyfwerth.
- 3 blynedd neu ragor mewn swydd Iechyd a Diogelwch.
- Profiad o weithredu iechyd a diogelwch.
- Gwybodaeth gyfredol am ystod eang o weithgareddau gwaith a gweithleoedd.
- Gwybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth yr Amgylchedd ac arfer da mewn cynaliadwyedd.
- Profiad o weithredu systemau iechyd a diogelwch, gan gynnal a rheoli prosiectau.
- Trefnu, gweithredu a darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch.
- Mae cymhwyster Cymorth Cyntaf yn ofynnol.
- Dangos lefel dda o gymhwysedd TG a phecynnau meddalwedd yn ogystal â bod yn barod i ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd neu systemau newydd.
- Profiad profedig blaenorol o ddatblygu, darparu ac asesu safonau HSS.
- Profiad profedig blaenorol o arwain, rheoli a hyfforddi tîm HSS.
- Bydd angen i chi allu gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau os oes angen.