MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Tachwedd, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

Coleg Penybont
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

Disgrifiad o'r swydd Cynorthwyydd Cymorth Dysgu
Graddfa Gyfog 1 - £21,029 pro rata y flwyddyn (£10.90 yr awr)
24 awr yr wythnos - 36.6 Wythnos Amser Tymor yn Unig - Cyfnod Penodol hyd at 31ain Awst 2024
Sylwch y bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a weithiwyd yn ystod y flwyddyn academaidd

Ar hyn o bryd mae gennym swydd gwag fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu o fewn y tîm ADY.

Byddwch yn cefnogi dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, yn y dosbarth ac mewn ardaloedd dysgu eraill, yn cynorthwyo gyda’u gofynion lles corfforol ac emosiynol a chymorth dysgu.

Gall hyn cynnwys darparu cymorth ymarferol, gofal personol, cymryd nodiadau, darllen, annog / ysgrifennu a / neu roi cefnogaeth i gymryd nodiadau. Gyda chymhwyster Lefel 2 perthnasol, bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl gydag anghenion dysgu ychwanegol/anableddau corfforol a all fod angen cefnogaeth a chymorth i gyflawni eu potensial llawn.

Bydd gennych sgiliau TG, cyfathrebu a chymryd nodiadau da a bod yn barod i weithio’n hyblyg.

Mae cofrestru fel gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC) yn ofyniad ar gyfer y rolau hyn ac mae angen iddo fod ar waith cyn y gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod:

Pecyn Gwybodaeth Swydd

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.