MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon,
- Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
2 x Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 - Ysgol Syr Hugh Owen x2
Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL SYR HUGH OWEN, CAERNARFON
(Cyfun 11 - 18; 930 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib
2 x Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant.)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (£16,315 - £16,612 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Clive Thomas yshopen@syhughowen.ysgolionwynedd.cymru .
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno Marian Williams, PA y Pennaeth, Ysgol Syr Hugh Owen, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW. Rhif ffôn: 01286 682975; e-bost: marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DYDD IAU, 28 O FEDI, 2023.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
(The above is an advertisement for 2 x Learning Support Assistant Level 2 at Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.
Manylion Person
Manyleb Person
1. ADDYSG A HYFFORDDIANT
Y lleiafswm o ofynion addysgol/cymwysterau proffesiynol neu alwedigaethol sydd eu hangen ar gyfer y swydd:
1.1 Hanfodol
1.1.1 Cymhwyster perthnasol ar gyfer cefnogi pobl ifanc.
1.1.2 Sgiliau rhifedd/llythrennedd da.
1.2 Dymunol
1.2.1 Profiad o weithio gyda phobl ifanc
Unrhyw hyfforddiant penodol sydd ei angen ar gyfer y swydd yn cynnwys Ardystiad:
1.3 Hanfodol
1.3.1 Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu.
1.4 Dymunol
1.4.1 Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol.
2. GOFYNION CYMHWYSEDD ALLWEDDOL
Gwybodaeth yn ymwneud â'r swydd sy'n allweddol ar gyfer perfformiad effeithiol.
2.1 Hanfodol
2.1.1 Profiad o weithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed.
2.1.2 Deall polisïau/côd ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol
2.2 Dymunol
2.2.1 Profiad o weithio mewn ysgol
2.2.2 Profiad o weithio gyda/gofalu am ddisgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Sgiliau Penodol sy'n allweddol ar gyfer perfformiad effeithiol:
2.3 Hanfodol
2.3.1 Y gallu i weithio yn annibynol a fel rhan o dîm
2.3.2 Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda phobl ifanc ac oedolion
2.3.3 Defnydd effeithlon o TGCh i gefnogi dysgu
2.3.4 Defnyddio offer a thechnoleg arall e.e. llungopïwr
Swydd Ddisgrifiad
Swydd Ddisgrifiad
Cymhorthydd Addysgu
Lefel 2
Aelod o'r Tîm ADY
Rheolwr Cyswllt: Cyd-gysylltydd ADY, Dirprwy Bennaeth Cynhwysiad, Pennaeth
Pwynt/Graddfa Cyflog: Graddfa GS3 pwynt 5-6
(pwynt cyflog cychwynnol £16,063.93)
Cytundeb: Parhaol - 32 awr / 39 wythnos
Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosib
Cyfrifoldebau Penodol i'r Maes Arwain:
Pwrpas Cyffredinol y Swydd:
• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol; ac unrhyw gais rhesymol gan y Pennaeth.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i addysgu.
• Cyfrannu at gylch cynllunio'r athro er mwyn sicrhau bod gan pob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.
• Dysgu Braille. Pan yn cymhwyso bydd y swydd yn newid i Gymhorthydd Addysgu Lefel 3.
Cyfrifoldebau a Thasgau Allweddol:
Cefnogaeth i Ddisgyblion:
1. Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i
weithgareddau dysgu.
2. Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
3. Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu CDU, CAU, RhCB, rhaglenni a/neu gais gan asiantaethau allanol.
4. Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
5. Dan arweiniad yr athro/athrawes darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
6. Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunanhyder.
7. Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio ag eraill.
Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes:
1. Gweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.
2. Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.
3. Gweithio â'r athro i rannu cynlluniau tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a
adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
4. Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm:
1. Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
2. Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.
3. Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth bwrpasol.
4. Pennu'r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a'u cynnal a'u cadw.
Cefnogaeth i'r Ysgol:
1. Bod yn ymwybodol o'r polisïau a'r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data a chydymffurfio â hwy gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol.
2. Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol yn cynnwys y Polisïau Cynhwysiad a Dwyieithrwydd.
3. Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â'r athro/athrawes i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
4. Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd ein hun a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
5. Ar gais, mynd gyda athrawon a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro..
Dyddiad - Gorffennaf 2020
Sut i Ymgeisio:
Ffurflen gais a Llythyr cais, i sylw Mrs Marian Willams, PA y Pennaeth:
marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Neu, gellir cyflwyno cais am y swydd arlein ar wefan Cyngor Gwynedd.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i gysylltu gyda'r Pennaeth,
Mr Clive Thomas. yshopen@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Dyddiad Cau:
Dydd Iau, 28ain o Fedi 2023 am 10:00yb.
Dyddiad Cyfweld:
I'w gadarnhau.
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.