MANYLION
  • Lleoliad: Aberaeron,
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Hydref, 2023 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gyfun Aberaeron

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn gymuned glós, fywiog a naturiol ddwyieithog sy'n meddu ar ethos sy'n adlewyrchu'r ardal yn nhermau iaith a diwylliant. Ymfalchïwn yn yr hanes hir o lwyddiant sydd i'r ysgol yn academaidd ac mewn amryw o feysydd allgyrsiol, a'r gefnogaeth bersonol a gaiff pob disgybl.

Mae Corff Llwodraethol Ysgol Gyfun Aberaeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu profiadol Lefel 2 i gefnogi disgyblion sy'n astudio cwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau bywyd yng Nghanolfan Y Mor. Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol o fantais.

Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â ruglder yn y Gymraeg os yn bosib.

Mae croeso i unrhyw ymgeisydd gysylltu gyda'r Pennaeth ADY am sgwrs anffurfiol.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc bregus er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym ni a'n sefydliadau addysgiadol yn cydnabod bod plant a phobl ifanc a'r hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu'u lles. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a byddwn yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy